Y chwilio am ddyn 'aeth i mewn i'r afon' yn Aberteifi yn dod i ben dros dro

Afon Teifi / Google

Mae ymdrechion chwilio wedi dod i ben am y dydd yn Aberteifi yn dilyn pryderon bod dyn wedi mynd i mewn i’r afon. 

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fore dydd Sul eu bod nhw wedi bod yn cydweithio gyda gwasanaethau eraill er mwyn ceisio dod o hyd i'r dyn ar ôl iddo fynd i mewn i’r Afon Teifi. 

Y gred yw ei fod wedi mynd i’r dŵr oddi ar bont ar Stryd y Castell am tua 05:15 fore dydd Sul. 

Mewn datganiad brynhawn ddydd Sul dywedodd y llu bod y chwilio wedi dod i ben am y dydd ac fe fyddan nhw'n parhau gyda'u hymdrechion fore dydd Llun.

Dywedodd y llu: "Mae'r chwilio am Afon Teifi yn Aberteifi wedi'i ohirio am y noson.

"Mae swyddogion, ynghyd â chydweithwyr o Wylwyr y Glannau EM, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, wedi bod wrth yr afon ers i adroddiad gael ei wneud bod dyn wedi mynd i mewn i'r dŵr tua 05.15.

“Er gwaethaf chwilio'r ardal ar droed, mewn cwch, hofrennydd a drôn, nid yw'r dyn wedi'i ganfod.

"Bydd y chwilio’n ailddechrau yn y bore.

"Hoffem ddiolch i'r rhai sydd wedi helpu drwy gydol y dydd, a gofyn i aelodau'r cyhoedd gadw draw o'r ardal nawr - yn enwedig glannau'r afon - er eu diogelwch eu hunain."

Roedd Heddlu Dyfed-Powys, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gwylwyr y Glannau EM wedi bod yn bresennol yno trwy'r dydd. 

Roedd hofrennydd a chychod yn rhan o’r ymdrech i ddod o hyd i’r dyn. 

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth all fod o gymorth i gysylltu drwy ddyfynnu cyfeirnod 52 ynghyd â’r dyddiad, 4 Ionawr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.