Mwy o rybuddion am eira a rhew i'r rhan fwyaf o Gymru
Mae rhybuddion melyn am rew ac eira mewn grym ddydd Sul gan effeithio ar y rhan fwyaf o Gymru.
Mae ‘na rybudd y gallai eira trwm achosi oedi ar y ffyrdd gan greu amodau gyrru anodd ddydd Sul.
Fe allai llefydd yn y gorllewin weld hyd at 10cm o eira, gydag ardaloedd yn y gogledd hefyd yn cael eu taro’n wael.
Mae Heddlu’r Gogledd wedi rhybuddio pobl i beidio â gyrru ar hyd ffordd yr A55 o Abergwyngregyn i Ynys Môn, yn ogystal â chyffordd Y Felinheli fore Sul.
“Peidiwch â theithio yno oni bai ei fod yn hollol angenrheidiol,” meddai datganiad.
Mae rhai gwasanaethau bysiau wedi canslo teithiau yn sgil eira trwm dros nos.
Fe gyhoeddodd Lloyd's Coaches y bydd eu holl deithiau yn cael eu canslo ddydd Sul.
Mewn datganiad dywedodd Gwynfor Coaches nad yw ardal Eryri yn "wasanaethadwy" gan ddweud na fydd teithiau yn cael eu cynnal fore Sul.
Mae Cynghorydd Sir Powys ar ran Plaid Cymru yng Nglantwymyn, Elwyn Vaughan, wedi dweud ei fod wedi ysgrifennu at Gyngor Powys yn dilyn pryderon am ddiogelwch ffordd fynydd yn lleol.
Mae’n dweud bod angen “gweithredu” er mwyn atal pobl rhag teithio ar hyd Ffordd Dylife ym Mhowys wedi eira neu dywydd rhewllyd.
Mae’n galw ar y cyngor i osod giatiau er mwyn gallu cau’r ffordd pe bai yna amodau gyrru peryglus.
“Mae hyn yn arfer arferol ar lawer o ffyrdd o'r fath yn yr Alban a Gogledd Lloegr ac mae'n ddull synnwyr cyffredin,” meddai.
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gyda Chyngor Powys am ymateb.
Mae tri rhybudd tywydd yn ymwneud ag eira a rhew mewn grym yng Nghymru ddydd Sul.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod ffordd yr A487 rhwng Southgate a Llanfarian wedi cau am gyfnod fore dydd Sul oherwydd eira a rhew.
Roedd rhybudd melyn am eira mewn grym yn ystod oriau mân y bore yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin, Conwy, Gwynedd, Sir Benfro a Phowys. Fe ddaeth hynny i ben am 11:00.
Fe ddaeth rhybudd arall am rew ac eira i rym am 12:00 brynhawn ddydd Sul, ac fe fydd yn dod i ben am 12:00 ddydd Llun.
Mae’r rhybudd hwnnw’n effeithio ar bob sir yng Nghymru heb law am Ynys Môn.
Cyngor
Mae timau Achub Mynydd ledled Gogledd Cymru wedi cynghori pobl i feddwl a chynllunio'n ofalus cyn mynd allan i'r awyr agored ddydd Sul.
Dywedodd llefarydd: “Mae tirwedd eira yn beth o harddwch. Fodd bynnag, gydag eira daw risg gynyddol gan gynnwys tymereddau'n plymio; mwy o anhawster i ennill a chynnal troedle mewn amodau llithrig; a llywio llwybr wrth i'r eira orchuddio'r dirwedd a gwelededd yn lleihau.
"Mewn amodau fel heddiw, gall gymryd mwy o amser i dimau achub mynydd gyrraedd rhywun sydd angen eu cymorth.
"Y cyngor gan wirfoddolwyr achub mynydd profiadol yn amodau heddiw yw ailystyried os yw eich cynlluniau'n cynnwys teithio i ardaloedd mwy anghysbell - bydd y mynyddoedd a'r dyffrynnoedd yn dal i fod yno pan fydd yr amodau tywydd yn llai difrifol."
Prif lun: Blaenau Ffestiniog gan Mari Williams