Venezuela: Nicolás Maduro yn cyrraedd America mewn cyffion

Venezuela: Nicolás Maduro yn cyrraedd America mewn cyffion

Mae Arlywydd Venezuela Nicolás Maduro wedi cyrraedd Efrog Newydd ar ôl cael ei gipio gan luoedd yr Unol Daleithiau.

Cafodd ei hebrwng mewn cyffion gan swyddogion ar ôl glanio ar dir yr Unol Daleithiau.

Mae Tîm Ymateb Cyflym y Tŷ Gwyn wedi cyhoeddi lluniau sy'n dangos Nicolas Maduro yn cael ei dywys i mewn i orsaf ac yn cael ei glywed yn dweud "blwyddyn newydd dda" wrth iddo gael ei hebrwng.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Eluned Morgan fore dydd Sul fod y "sefyllfa yn Venezuela yn peri pryder mawr". 

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithaol, dywedodd Eluned Morgan: "Mae'r sefyllfa yn Venezuela yn peri pryder mawr. 

"Fel pobl ledled y byd, mae pobl Cymru yn dilyn y digwyddiadau'n agos ac mae ein meddyliau gyda'r rhai yr effeithiwyd arnynt.

"Fel mae Keir Starmer wedi egluro, nid oedd y Deyrnas Unedig yn rhan o weithred filwrol yr Unol Daleithiau.

"Y flaenoriaeth nawr yw lleihau tensiwn, amddiffyn bywydau ac ymdrechion newydd trwy ddiplomyddiaeth a sefydliadau rhyngwladol, yn unol â chyfraith ryngwladol.                                                 

"Mae gobaith eang am lwybr at ddeialog, democratiaeth a heddwch."

Mae Tsieina wedi galw am ryddhau Maduro ar ôl iddo gael ei ddisodli.

Dywedodd gweinidogaeth dramor Tsieina bod y wlad yn galw am ryddhau Nicolas Maduro a'i wraig, Cilia Flores.

Dywedodd llefarydd bod Tsieina yn "mynegi pryder difrifol" ynghylch "reolaeth trwy rym milwrol" yr Unol Daleithiau dros arlywydd Venezuela a'i wraig, Cilia Flores, "a'u trosglwyddo allan o'r wlad".

Ychwanegodd fod hyn yn "gwrthdrosedd clir o gyfraith ryngwladol a'r normau sylfaenol mewn cysylltiadau rhyngwladol a dibenion ac egwyddorion Siarter y Cenhedloedd Unedig".

Dywedodd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, ddydd Sadwrn y bydd America yn "rhedeg Venezuela" ar ôl iddo orchymyn ymosodiad wnaeth cipio arlywydd y wlad, Nicolás Maduro a'i wraig.

Mae Arlywydd Venezuela wedi cael ei gyhuddo o droseddau yn ymwneud â chyffuriau wedi i Donald Trump gyhoeddi fore Sadwrn ei fod wedi ei gipio o’i wlad. 

Fe gyhoeddodd Mr Trump ei fod wedi “cipio arweinydd [Venezuela], yr Arlywydd Nicolás Maduro” a’i wraig Y Foneddiges Gyntaf Cilia Flores yn dilyn cyfres o ffrwydradau yn Venezuela ddydd Sadwrn. 

Cafodd nifer o ffrwydradau eu gweld ym mhrifddinas Venezuela, Caracas bore ddydd Sadwrn, ac fe gafodd taleithiau Miranda, Aragua a La Guaira eu taro gan ymosodiadau hefyd. 

Cadarnhaodd Trump mai’r Unol Daleithiau oedd yn gyfrifol am yr ymosodiadau gan ddweud eu bod wedi cipio Maduro a’i wraig a’u cludo nhw o’r wlad. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.