Britney Spears yn ennill yr hawl i ddewis cyfreithiwr
Mae Britney Spears wedi cael caniatâd i ddewis cyfreithiwr newydd i’w chynrychioli yn ei brwydr geidwadaeth barhaus.
Dyma'r tro cyntaf i'r gantores gael dweud ei dweud am ei chynrychiolaeth gyfreithiol ei hun ers 2008.
Gwnaeth cyfreithiwr Ms Spears, Samuel Ingham, a gafodd ei benodi gan y llys, gais ffurfiol i ymddiswyddo wythnos diwethaf.
Roedd angen i'r ymddiswyddiad gael ei gymeradwyo gan farnwr o Galifornia.
Daeth y dyfarniad hwnnw ddydd Mercher wrth i’r Barnwr Brenda Penny dderbyn ymddiswyddiad Mr Ingham a chymeradwyo dewis Spears o gyfreithiwr newydd, sef Mathew Rosengart.
Mae Mr Rosengart wedi cynrychioli pobl fel Sean Penn, Steven Spielberg, Julia Louis-Dreyfus, Keanu Reeves a Eddie Vedder yn y gorffennol, meddai The Independent.
Darllenwch y stori'n llawn yma.