Wrecsam: Yr amgueddfa newydd sy'n dathlu hanes pêl-droed yng Nghymru

Newyddion S4C

Wrecsam: Yr amgueddfa newydd sy'n dathlu hanes pêl-droed yng Nghymru

Mi fydd amgueddfa newydd yn Wrecsam sy'n olrhain hanes pêl-droed yng Nghymru ac yn croniclo hanes y ddinas yn "llenwi bwlch mawr’" yn ôl y trefnwyr.

Mae'r amgueddfa sy'n agor ddiwedd mis Medi yn rhoi llwyfan i rai o arteffactau pwysica'r byd pêl-droed gyda’r hynaf yn deillio o 1899.

Mae hanner yr amgueddfa wedi ei chlustnodi i ddathlu ac arddangos hanes dinas Wrecsam dros gyfres o ganrifoedd.

Mi fydd modd archebu tocynnau i ymweld â’r amgueddfa o ddydd Llun ymlaen gyda’r drysau i agor yn llawn ar y 25 Medi.

Mae’r amgueddfa yng nghanol dinas Wrecsam yn gartref i nifer o arteffactau sy’n adrodd stori a pherthynas Cymru gyda phêl-droed o’r gêm ryngwladol gyntaf nôl ym 1877.

Un o’r eitemau mwyaf gwerthfawr yn y casgliad ydi cap a roddwyd i’r chwaraewr pêl-droed William Harrison yn 1899.

Image
cap
Cap William Harrison

Mi dreuliodd y cap blynyddoedd maith yn Awstralia ond yn 2021 mi gafodd ei roi i Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn rhodd gan deulu Harrison.

Eitem arall gwerthfawr yw telegram gwreiddiol o 1958.

Dyma oedd y flwyddyn gyntaf i Gymru chwarae mewn Cwpan y Byd ac ar y pryd mi oedd un o sêr y gêm, John Charles yn chwarae i Juventus yn yr Eidal.

Mae’n debyg oedd dipyn o waith i ddwyn perswâd gan reolwyr Cymru i Juventus ryddhau Charles i chwarae dros ei wlad, gan gofio nad oedd yr Eidal wedi cymhwyso.

Image
amgueddfa

Wedi trafodaethau lu mi gafodd Charles ei ryddhau ychydig o ddyddiau’n unig cyn y gêm gyntaf a’r Telegram yn dangos o bosib pa mor amharod oedd yr Eidalwyr i wneud hynny.

'Dangos y gorau o Gymru'

Yn ôl Prif Weithredwr Cyngor Sir Wrecsam Alwyn Jones mae’r amgueddfa yn ddathliad o bêl-droed ac o Wrecsam.

“Dwi’n meddwl bod ni angen dangos y gorau o ni fel Cymry, ac o Wrecsam”, meddai.

“Da ni am ddangos y gorau o be sydd o ran pêl-droed, sut mae pêl-droed yn dod â phobl at ei gilydd a hynny ar draws [gêm y] merched, dynion a chymunedau.

“Yn yr un modd da ni eisiau dangos hanes sydd ganddyn ni lot o barch at yn Wrecsam.”

Image
Alwyn Jones
Prif Weithredwr Cyngor Sir Wrecsam, Alwyn Jones 

Yn ôl Mr Jones mae gan yr amgueddfa newydd rôl bwysig.

“Yn y gogledd, mae 'na fwlch wedi bod, dwi’n gwybod fod 'na sawl amgueddfa yn y de, ond i ni yn y gogledd dwi’n meddwl fod hwn yn llenwi’r bwlch yn dda ac mae’r hanes sydd ganddom ni yma’n Wrecsam, mae’n adrodd hanes sawl cymuned ar draws y gogledd hefyd.”

Mi gyfrannodd Llywodraeth Cymru £6m i’r prosiect ac yn ôl y Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon mae’r atyniad newydd yn siŵr o ddenu pobl o bell ac agos.

“Mae’n dangos stori Wrecsam o fewn cyd-destun Cymru fel cenedl - mae ‘na rhywbeth yma i bawb, mae 'na oriau i dreulio yma yn mwynhau’r casgliadau.

“Ond hefyd lle i ddod nôl yma a darganfod mwy oherwydd mae’r gofodau dros dro hefyd yn bwysig.”

Pêl arbennig

Mae’r amgueddfa yn gartref i nifer o arteffactau, hen a newydd ac yn dangos hanes y gamp o’r dechrau hyd heddiw.

Mae nifer yn rhoddion gan aelodau’r cyhoedd, a hynny’n cynnwys un bêl arbennig meddai Sion Lewis, Swyddog Ymgysylltu'r Amgueddfa.

Tu ôl i gist wydr mae pêl ledr sydd â stori ryfeddol

Image
The Tom Hughes Llangollen football played in an International between Wales and England..jpg
Y pêl-droed Tom Hughes Llangollen - pêl a gafodd ei defnyddio mewn gêm ryngwladol rhwng Cymru a Lloegr yn y 1920au

“Mi gafodd o ei wneud yn Llangollen  ac mae’n bêl swyddogol i Gymdeithas Bêl-droed Cymru ar gyfer gêm ‘da ni’n amau o’r 1920au," meddai Mr Lewis.

“Felly un o’r gemau mawr cyntaf i Gymru wedi i’r rhyfel mawr orffen ac wrth i bêl-droed ryngwladol gychwyn.

“Ond da ni newydd fod yn siarad ac wedi darganfod mwy o hanes amdano fo, ond mae’n edrych fel ei bod hi’n hyn na be oedda ni’n meddwl yn y lle cyntaf."

Mae Sion Lewis wedi bod ynghlwm â’r gwaith o guradu ers blynyddoedd ac yn dweud wrth weld y prosiect yn dod ynghyd ei fod yn teimlo’n emosiynol.

“Di hanes ddim yn stopio ar ôl 90 munud a da ni ddim eisiau rhoi'r hanes mewn cas a chau’r drws.

“Mae mwy o waith i wneud a gobeithio mwy o hanes i ddarganfod yn y dyfodol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.