Rhoddion o £72 miliwn i Reform UK yn 'cydymffurfio'n llawn gyda'r gyfraith'
Mae Reform UK yn dweud bod dwy rodd o £36 miliwn yr un i’r blaid wleidyddol yn “cydymffurfio’n llawn gyda’r gyfraith".
Ddydd Gwener, fe wnaeth y blaid, sy’n cael ei harwain gan Nigel Farage, dderbyn rhodd o £36 miliwn gan y dyn busnes Ben Delo - y rhodd unigol fwyaf erioed i blaid wleidyddol ym Mhrydain.
Dywedodd Mr Delo, biliwnydd o Brydain, sydd yn ôl adroddiadau wedi dychwelyd i'r DU o Hong Kong yn ddiweddar, ei fod wedi rhoi'r arian i sicrhau "brwydr deg" yn yr etholiad.
Daeth cyhoeddiad yn ddiweddarach bod y buddsoddwr arian crypto Christopher Harborne wedi penderfynu cyfrannu'r un swm i'r blaid.
Dywedodd Mr Harborne wrth y Telegraph ddydd Sadwrn mai'r "ysbryd cystadleuol" oedd wedi ei ysbrydoli i roi swm cyfwerth â rhodd Mr Delo.
Dywedodd y entrepreneur, sydd yn byw yng Ngwlad Thai nad oedd yn disgwyl unrhyw beth yn gyfnewid am y rhodd, heb law am "blaid sydd yn barod i lywodraethu".
'Hwb anferthol'
Wrth wynebu cwestiynau am y rhoddion fore Sul, dywedodd Robert Jenrick, Llefarydd Reform UK ar yr Economi bod y rhoddion yn "foment dyngedfennol" i'r blaid.
Wrth siarad ar raglen Sunday with Laura Kuenssberg, dywedodd Mr Jenrick: “Mae’r ddwy rodd yn cydymffurfio â’r gyfraith fel y mae hi nawr, a chyn belled ag yr ydym yn ei wybod, fel y bydd hi yn y dyfodol.
“Mae un o’r rhoddwyr, Ben Delo, wedi dychwelyd i’r DU, yn rhannol er mwyn ei fod yn gallu cydymffurfio â’r gyfraith.
“Mae’n hwb anferthol i Reform, mae’n foment dyngedfennol i’r blaid.
"Mae'n golygu y byddwn ni’n barod am frwydr os yw Andy Burnham yn galw etholiad, ac o’r diwedd fe allwn gystadlu ar faes gwastad, teg, gyda’r ddwy hen blaid, sydd â chymaint o fanteision sefydliadol.”
Mae Gweinidog Cartrefi’r Llywodraeth Lafur, Angela Rayner wedi awgrymu fore Sul y byddai’r Llywodraeth yn ceisio cymryd camau ôl-weithredol er mwyn cyfyngu ar y symiau y gallai bleidiau ei dderbyn gan roddwyr o dramor.
Dywedodd Ms Rayner y byddai'r llywodraeth yn creu deddfwriaeth er mwyn “sicrhau bod etholiadau ar gyfer y bobl, ac nad oes modd prynu eich ffordd mewn i’n democratiaeth.”
Wrth ymateb, ychwanegodd Mr Jenrick: “Efallai bydd Angela Rayner neu’r llywodraeth yn ceisio newid y gyfraith, i’w gwneud hi’n anoddach fyth i bobl roi arian i Reform, ni fyddai unrhyw beth yn fy synnu.”
Prif Weinidog Cymru yn 'poeni' am ddylanwad
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth, na fyddai’n derbyn rhoddion o’r fath i Blaid Cymru.
Ar raglen Laura Kuenssberg, dywedodd Mr ap Iorwerth “na bendant” pan ofynnwyd iddo a fyddai Plaid Cymru yn derbyn rhoddion fel y £72 miliwn a roddwyd i Reform UK gan ddau biliwnydd crypto.
Dywedodd: "Dylen ni roi hyn yn y categori cwestiynau damcaniaethol - ond mae'n 'na' pendant.
"Pan fydd pobl yn ystyried beth yw pwrpas yr arian hwn – a yw'r ddau unigolyn hyn wedi penderfynu'n anhunanol eu bod eisiau gwella bywydau pobl gyffredin, neu a oes ganddyn nhw ddiddordeb yn yr agenda dad-reoleiddio crypto rydw i wedi clywed Reform yn sôn amdani yn y gorffennol?
"Felly, mater o enw da ydyw."
Dywedodd fod "problem gyda chrypto" o ran ei allu i "newid yn negyddol y ffordd y gall symud arian gefnogi gweithgareddau anghyfreithlon".
Dywedodd y gallai symiau mor fawr effeithio ar "hyder mewn democratiaeth".
Ychwanegodd: "A yw rhywun yn rhywle sydd â symiau enfawr o arian – ac efallai ddim hyd yn oed yn byw yn y DU – yn ceisio prynu gwleidyddiaeth?
"Rwy'n poeni am ddylanwad dau berson ar wleidyddiaeth, beth bynnag yw eu cefndir.”
Ymchwiliad
Mae’r swm yn rhoi hwb i Nigel Farage wrth i’w gyllid ef a'r blaid Reform gael eu craffu, gydag ymchwiliad troseddol yn cael ei gynnal i honiadau iddyn nhw dorri rheolau ynghylch rhoddion gwleidyddol.
Dywedodd Mr Farage: "Mae'n anrhydedd i mi fod Ben Delo wedi dangos cymaint o hyder yn Reform."
Mr Delo, un o gyd-sylfaenwyr y platfform arian digidol BitMEX, yw cyfrannwr mwyaf Reform.
Yr wythnos diwethaf, fe gefnogodd ASau fesurau gan gynnwys cap o £100,000 ar roddion tramor ac atal cyllid trwy arian cyfred digidol, ond mae angen i Dŷ’r Arglwyddi basio’r ddeddfwriaeth ddrafft o hyd cyn iddi ddod yn gyfraith.
Mae’r blaid wedi wynebu cwestiynau parhaus am ei harian, mater a gafodd effaith negyddol ar ei chynhadledd flynyddol yr wythnos diwethaf yn dilyn ymchwiliad cudd a ddarlledwyd ar Channel 4 News.
Mae ditectifs o Heddlu’r Met yn Llundain yn ymchwilio ar ôl i’r adroddiad ddangos uwch-aelodau o Reform yn ymddangos fel pe baent yn trafod sut i guddio rhoddion o ffynonellau tramor.
Mae Reform UK yn gwadu unrhyw gamymddygiad ac wedi dweud y bydd yn cydweithredu’n llawn â’r ymchwiliad.
Mae arweinydd y blaid hefyd yn wynebu ymchwiliad gan gorff gwarchod safonau’r Senedd ynghylch rhodd o £5 miliwn a dderbyniodd gan Mr Harborne.
Mae Mr Farage wedi dweud nad yw wedi gwneud dim byd o’i le ac nad oedd y rhodd yn un wleidyddol.
