Gobaith i groesawu ymwelwyr i Wersyll Glan-llyn unwaith eto
15/07/2021
Fel rhan o’i gyhoeddiadau llacio ddydd Mercher, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, y bydd y rheoliadau yn newid o ran canolfannau preswyl.
Golyga hyn, dros wyliau’r haf, y caiff hyd at 30 o blant ar un adeg fynd i ganolfannau preswyl, fel sefydliadau’r Urdd.
Wrth siarad â Golwg360, mae cyfarwyddwr gwersyll yr Urdd Glan-Llyn, Huw Antur wedi croesawu’r penderfyniad, gan ddweud ei fod “yn gyhoeddiad rydym wedi bod yn aros amdano fe ers talwm a dweud y gwir”.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Urdd Gobaith Cymru