Meddygon yn ofni ton o firysau'r gaeaf ar ben Covid-19
Gallai cynnydd enfawr fod yn y nifer o farwolaethau yn gysylltiedig â'r ffliw dros y gaeaf hwn, gydag ofnau y bydd firysau'r gaeaf yn straen eithafol ar ben Covid-19 ar y Gwasanaeth Iechyd, yn ôl arolwg.
Daw'r rhybudd gan wyddonwyr, sydd yn ofni na fydd y GIG yn gallu "ymdopi" gyda'r cynnydd.
Roedd cyfyngiadau Covid-19 yn golygu nad oedd llawer o firysau wedi lledaenu'r gaeaf diwethaf, yn ôl firolegwyr, gyda phryderon bod imiwnedd y boblogaeth i salwch tymhorol wedi cael ei effeithio.
Mae'r adroddiad gan yr Academi Gwyddorau Meddygol yn dweud y gallai marwolaethau a'r nifer o bobl sy'n gorfod cael gofal yn yr ysbyty yn sgil y ffliw a firysau'r gaeaf fod ddwywaith yr hyn sy'n cael ei weld mewn blwyddyn "arferol", meddai Sky News.
Darllenwch y stori'n llawn yma.