Cipolwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma ein prif benawdau ar fore dydd Mawrth, 13 Gorffennaf.
Cyhoeddi Rhaglen Waith newydd ar gyfer Cymraeg 2050
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei Rhaglen Waith newydd ar gyfer Cymraeg 2050, y strategaeth genedlaethol i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae’r rhaglen yn nodi’r polisïau y bydd y llywodraeth yn eu gweithredu dros y pum mlynedd nesaf. Yn ogystal â chyrraedd miliwn o siaradwyr, mae’r llywodraeth wedi gosod nod i ddyblu'r defnydd dyddiol o'r Gymraeg erbyn 2050.
Covid-19: Llacio cyfyngiadau yn Lloegr yn 'anghyfrifol' - Sky News
Mae meddyg blaenllaw wedi dweud fod penderfyniad Boris Johnson i barhau â chynlluniau llacio cyfyngiadau Covid-19 yn Lloegr yn "anghyfrifol". Fe gyhoeddodd y Prif Weinidog ddydd Llun y byddai cyfres o fesurau yn cael eu llacio yn y wlad ar 19 Gorffennaf. Er hynny, mae adroddiadau wedi rhybuddio y bydd nifer yr achosion a marwolaethau yn cynyddu yn mis Awst.
'Angen' plannu 86m o goed yng Nghymru erbyn 2030
Mae angen i Gymru blanmu dros 86m o goed dros y naw mlynedd nesaf i gyrraedd uchelgais sero net erbyn 2050, yn ôl Llywodraeth Cymru. Mae disgwyl i’r Dirprwy Weinidog dros y Newid yn yr Hinsawdd lansio “galwad genedlaethol i weithredu” yn y Senedd ddydd Mawrth, gan annog pobl Cymru i blannu coed. Yn ôl Lee Waters, mae angen plannu 43,000 hectar o goed newydd erbyn 2030, a 180,000 erbyn 2050.
Strydoedd Caerdydd 'fel yr Eidal' ar ôl ffeinal Euro 2020
Mae un o reolwyr un o fwytai Eidaleg mwyaf eiconig Caerdydd wedi disgrifio'r brifddinas "fel yr Eidal" wedi buddugoliaeth y wlad yn erbyn Lloegr nos Sul. Roedd Francesco Concas, o Sardinia yn wreiddiol, yn gyfrifol am redeg y caffi Calabrisella yn Nhreganna dros y penwythnos, gydag ef a’i gyd-weithwyr yn ceisio cymryd pob cyfle i sleifio i’r gegin i gael cip ar y gêm dyngedfennol Euro 2020.
Aflonyddwch yn Ne Affrica ar ôl carcharu cyn-arlywydd - The Guardian
Mae aflonyddwch a golygfeydd treisgar wedi eu gweld yn Ne Affrica yn dilyn carcharu’r cyn-arlywydd, Jacob Zuma. Yn ôl The Guardian, mae 10 o bobl wedi marw, gan gynnwys bachgen 15 oed, a 489 o bobl wedi'u harestio. O ganlyniad, mae'r Arlywydd Cyril Ramaphosa wedi gyrru 2,500 o heddweision i daleithiau Guateng a KwaZulu-Natal, sef talaith enedigol y cyn-arlywydd Zuma, i geisio mynd i'r afael â'r problemau.