Strydoedd Caerdydd 'fel yr Eidal' ar ôl ffeinal Euro 2020
13/07/2021
Strydoedd Caerdydd 'fel yr Eidal' ar ôl ffeinal Euro 2020
"Doedd o ddim fel Caerdydd - roedd o fel yr Eidal".
Dyma sut mae un o reolwyr un o fwytai Eidaleg mwyaf eiconig Caerdydd yn disgrifio’r brifddinas wedi buddugoliaeth yr Eidal yn erbyn Lloegr nos Sul.
Francesco Concas, o Sardinia yn wreiddiol, oedd yn gyfrifol am redeg y caffi Calabrisella yn Nhreganna dros y penwythnos, gydag ef a’i gyd-weithwyr yn ceisio cymryd pob cyfle i sleifio i’r gegin i gael cip ar y gêm dyngedfennol Euro 2020.
Roedd prysurdeb mawr yn y caffi, meddai Mr Concas, gyda nifer fawr yn dangos eu cefnogaeth i'r Eidalwyr.