Cyhoeddi Rhaglen Waith newydd ar gyfer Cymraeg 2050

NS4C

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei Rhaglen Waith newydd ar gyfer Cymraeg 2050, y strategaeth genedlaethol i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae’r rhaglen yn nodi’r polisïau y bydd y llywodraeth yn eu gweithredu dros y pum mlynedd nesaf.

Yn ogystal â chyrraedd miliwn o siaradwyr, mae’r llywodraeth wedi gosod nod i ddyblu'r defnydd dyddiol o'r Gymraeg erbyn 2050.

Ymhlith y camau gweithredu sydd wedi eu nodi yn y Rhaglen Waith mae cyflwyno Bil Addysg Cyfrwng Cymraeg, cyflwyno cynllun 10 mlynedd i gynyddu nifer yr athrawon Cymraeg a chyfrwng Cymraeg a gwella cyrhaeddiad disgyblion yn y Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.

Yn ogystal, mae’r llywodraeth yn dweud eu bod am ddatblygu rhaglen i gefnogi defnydd o’r Gymraeg gan blant a phobl ifanc, gan “ganolbwyntio ar bontio rhwng addysg, y gymuned, y teulu a'r gweithle”.

Hefyd, mae’r rhaglen yn amlinellu Cynllun Tai Cymunedau Iaith Gymraeg a fydd yn defnyddio ysgogiadau economaidd i “gryfhau cymunedau Cymraeg eu hiaith”.

Dyma’r ail raglen i gael ei gyhoeddi ers lansio cynllun Cymraeg 2050 yn 2017.

Bydd canlyniadau’r Cyfrifiad 2021 yn rhoi syniad cynnar o’r cynnydd tuag at gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg, gyda’r llywodraeth yn dweud y bydd y Rhaglen Waith yn cael ei hadolygu a’i datblygu gan ystyried y canlyniadau.

‘Cynllunio’n ofalus’

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: "Mae ein gweledigaeth ar gyfer ein hiaith yn un eangfrydig a chynhwysol ac rwyf am i bawb yng Nghymru deimlo bod yr iaith yn perthyn i bob un ohonom. Mae Cymraeg 2050 yn strategaeth hirdymor sy'n nodi cynllun a gweledigaeth ar gyfer creu dinasyddion dwyieithog sydd â'r gallu a'r cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.

"Drwy gyhoeddi'r ddogfen hon yn gynnar yn nhymor y Llywodraeth hon, rydym yn cynnal y momentwm sydd wedi tyfu ers 2017 ac yn rhoi syniad clir i'n partneriaid o'r hyn rydym yn bwriadu ei wneud dros y pum mlynedd nesaf.

"Rhaid inni gynllunio'n ofalus ac yn bendant i gynyddu nifer y plant a’r oedolion sy'n dysgu Cymraeg. Rhaid inni greu rhagor o gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg sydd ganddynt a rhaid inni sicrhau bod yr amodau cywir yn bodoli i bobl ddefnyddio'r iaith gyda'i gilydd, boed hynny mewn cymunedau daearyddol neu rai rhithiol, mewn gweithleoedd neu mewn mannau cymdeithasol.

"Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda'n partneriaid ledled Cymru i roi cyfle i gynifer o bobl â phosibl fwynhau dysgu a defnyddio'r Gymraeg."