‘Angen’ plannu 86m o goed yng Nghymru erbyn 2030
Mae angen i Gymru blannu dros 86m o goed dros y naw mlynedd nesaf i gyrraedd uchelgais sero net erbyn 2050, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Mae disgwyl i’r Dirprwy Weinidog dros y Newid yn yr Hinsawdd lansio “galwad genedlaethol i weithredu” yn y Senedd ddydd Mawrth, gan annog pobl Cymru i blannu coed.
Yn ôl Lee Waters, mae angen plannu 43,000 hectar o goed newydd erbyn 2030, a 180,000 erbyn 2050.
Er hynny, dim ond 0.08k hectar o goed a gafodd eu plannu yng Nghymru'r llynedd, meddai.
‘Angen newid sylweddol’
Dywedodd y Dirprwy Weinidog: "Rwyf am i bawb werthfawrogi'r manteision niferus a ddaw o goed yng Nghymru, nid yn unig o ran mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, ond gwella ansawdd aer, gwella natur a gwella lles meddyliol pobl.
"Er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, mae angen newid sylweddol yng nghoetiroedd Cymru a thrawsnewid y ffordd y defnyddir coed Cymru ar draws ein heconomi.”
"Heddiw rwy'n cyhoeddi galwad genedlaethol i weithredu, gan ofyn i bawb ymuno â ni i gyflawni'r her hon i blannu mwy o goed i Gymru."
Mae’r llywodraeth yn dweud bod eu bod am weithio gyda ffermwyr a thirfeddianwyr i nodi cyfleoedd i blannu.
Economi goed newydd
Dywed Mr Waters bod hyn yn rhan o gynlluniau’r llywodraeth i ddatblygu economi goed newydd i Gymru.
"Bydd cyrraedd sero net, yn enwedig yn y sector adeiladu, yn golygu defnyddio llawer mwy o bren yng Nghymru," meddai.
"Mae hyn yn golygu rôl bwysig i goetiroedd cynhyrchiol dyfu mwy o bren Cymru yn gynaliadwy, yn hytrach na mewnforio pren sy'n cael effaith amgylcheddol negyddol dramor.
"Mae cyfle i broseswyr a gweithgynhyrchwyr coed yng Nghymru ddatblygu a chreu mwy o swyddi. Bydd hyn yn galw am gydgysylltu ar draws y gadwyn gyflenwi, er mwyn sicrhau bod mwy o bren Cymru yn mynd i ddefnyddiau gwerth ychwanegol uchel, a bod cymaint o'r cyfoeth a grëir â phosibl yn cael ei gadw yng Nghymru."
Llun: Llywodraeth Cymru