Aflonyddwch yn Ne Affrica ar ôl carcharu cyn-arlywydd
13/07/2021
Mae aflonyddwch a golygfeydd treisgar wedi eu gweld yn Ne Affrica yn dilyn carcharu’r cyn-arlywydd, Jacob Zuma.
Yn ôl The Guardian, mae 10 o bobl wedi marw, gan gynnwys bachgen 15 oed, a 489 o bobl wedi'u harestio.
O ganlyniad, mae'r Arlywydd Cyril Ramaphosa wedi gyrru 2,500 o heddweision i daleithiau Guateng a KwaZulu-Natal, sef talaith enedigol y cyn-arlywydd Zuma, i geisio mynd i'r afael â'r problemau.
Cafodd Jacob Zuma ei ddedfrydu i gyfnod yn y carchar am ddirmyg, ar ôl iddo wrthod rhoi tystiolaeth mewn ymchwiliad i anonestrwydd yn ystod ei arlywyddiaeth a ddaeth i ben yn 2018.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: austinevan