Cipolwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma ein prif straeon ar fore dydd Mawrth, 6 Gorffennaf.
Cynllun y llywodraeth i fynd i’r afael ag ‘effaith andwyol’ ail gartrefi
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun newydd i fynd i’r afael ag effaith ail gartrefi ar gymunedau ar draws Cymru. Yn ddiweddarach ddydd Mawrth, fe fydd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James AS, yn amlinellu “dull tair elfen uchelgeisiol” yn y Senedd i roi sylw i’r mater.
SAGE yn rhybuddio y bydd cyfnod clo arall erbyn yr hydref
Mae pryderon mai dim ond ychydig wythnosau o ryddid fydd i Loegr ar ôl i'r cyfyngiadau gael eu codi yn ddiweddarach y mis hwn. Daw'r rhybuddion gan wyddonwyr sy'n cynghori'r Llywodraeth, sy'n dweud y bydd rhaid i'r wlad fynd i gyfnod clo arall yn yr hydref o bosib.
Cwmni dillad o Gymru ddim yn cael hawlfraint i ddefnyddio'r enw 'Eryri'
Mae cwmni dillad o Gymru a gafodd eu gorfodi i roi'r gorau i ddefnyddio 'Snowdonia' ar eu nwyddau yn dweud na allant gael yr un warchodaeth dros yr enw 'Eryri'. Mae cwmni Eryri Clothing, Snowdonia Eco Friendly Clothing gynt, wedi derbyn gorchymyn cyfreithiol gan gwmni JD Williams o Fanceinion yn eu rhwystro rhag defnyddio'r enw ar eu dillad.
Yr Almaen i groesawu teithwyr o Brydain sydd wedi eu brechu
Bydd yr Almaen yn llacio cyfyngiadau ar deithwyr o Brydain wrth i'r wlad gyhoeddi newidiadau i'w rheolau teithio. Cafodd rheolau llym eu rhoi mewn lle yn sgil pryderon am yr amrywiolyn Delta. Bydd y Deyrnas Unedig, ynghyd â Phortiwgal, Rwsia, India a Nepal yn symud o restr risg uchaf y wlad i'r ail restr risg uchaf.
Cyfarfod i drafod y ffordd ymlaen i’r Eisteddfodau lleol
Mae nifer o eisteddfodau lleol wedi eu gohirio am yr ail flwyddyn yn olynol oherwydd cyfyngiadau’r pandemig. Mae galw nawr am gymorth ariannol i sicrhau dyfodol y digwyddiadau. Fe fydd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru yn cwrdd ddydd Mawrth i drafod y sefyllfa.
Dilynwch ddatblygiadau diweddaraf ar ap a gwefan Newyddion S4C drwy gydol y dydd.