Newyddion S4C

Cwmni dillad o Gymru ddim yn cael hawlfraint i ddefnyddio'r enw 'Eryri'

North Wales Live 06/07/2021
Eryri

Mae cwmni dillad o Gymru a gafodd eu gorfodi i roi'r gorau i ddefnyddio 'Snowdonia' ar eu nwyddau yn dweud na allant gael yr un warchodaeth dros yr enw 'Eryri'.

Mae cwmni Eryri Clothing, Snowdonia Eco Friendly Clothing gynt, wedi derbyn gorchymyn cyfreithiol gan gwmni JD Williams o Fanceinion yn eu rhwystro rhag defnyddio'r enw ar eu dillad.

Mae'r cwmni wedi bod â hawlfraint dros ddefnyddio'r enw ar ddillad, esgidiau a phenwisgoedd ers 2013.

Cafodd yr enw ei gofrestru yn wreiddiol gyda’r Swyddfa Eiddo Deallusol Ewropeaidd (IPO), ond cafodd ei drosglwyddo’n awtomatig i swyddfa'r DU ar ôl Brexit.

Mae cwmni Eryri Clothing wedi ceisio cofrestru 'Eryri' fel nod masnach, ond mae swyddfa IPO y DU wedi dweud bod y cais yn "annerbyniol", gan ddweud na fyddai'r enw yn cael ei weld fel nod masnach gan gwsmeriaid, meddai North Wales Live.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.