Cyfarfod i drafod y ffordd ymlaen i’r Eisteddfodau lleol
Mae nifer o eisteddfodau lleol wedi eu gohirio am yr ail flwyddyn yn olynol oherwydd cyfyngiadau’r pandemig.
Mae galw nawr am gymorth ariannol i sicrhau dyfodol y digwyddiadau.
Er i rai o’r eisteddfodau bach fentro ar-lein, nid oes incwm ar eu cyfer ac mae rhai yn poeni am yr effaith ar ddiwylliant a thraddodiadau Cymru.
Fe fydd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru yn cwrdd ddydd Mawrth i drafod y sefyllfa.
‘Wedi effeithio lot’
Mae Elin a Mari yn ddwy sydd wedi bod yn cystadlu mewn sawl eisteddfod leol ar hyd y blynyddoedd.
Erbyn hyn ymarfer yn yr ardd maen nhw, heb gynulleidfa a heb orfod perfformio’n fyw o flaen beirniaid.
Ond mae’r awch i gystadlu mewn eisteddfod draddodiadol yn fwy nag erioed, ac mae peidio cystadlu wedi cael effaith.
“Ma’r llais, so fe ‘di bo’n gweithio gymaint â beth o’dd e, a rhai nodau bydden i ffili ymestyn nawr fel o’n i’n gallu gwedwch dwy flynedd yn ôl, so mae e wedi effeithio lot ar llais fi a lot ar hyder ‘fyd”, medd Elin.
Ychwanegodd Mari: “Amser chi’n mynd i ‘Steddfod lleol, ma’ fe’n bach o practis a chi’n cael mwy o hyder achos chi’n gwbod bo chi’n gallu ‘neud e”.
‘Peth cymunedol ydy ‘Steddfod’
Ers dechrau’r pandemig, mae rhai eisteddfodau lleol wedi llwyddo i gynnal digwyddiadau rhithiol, ond mae eraill wedi penderfynu gohirio ac yn gwneud hynny eleni am yr eildro.
Dywedodd Aled Wyn Phillips o Gymdeithas Eisteddfodau Cymru wrth raglen Newyddion S4C: “Ma’ ‘na oblygiade technegol, oes ‘na 4G/5G ar gael, oes gynnon nhw yr offer priodol, oes gynnon nhw’r amser a’r gallu i fedru gwneud?
“Ond ddim dyna ‘di’r ateb wrth gwrs, beth ma’ pobl ishe gwneud ydy ail-ymgynnull, cynnal eu digwyddiadau, cynnal eu cystadlaethau, achos peth cymunedol ydy ‘Steddfod yn lleol wrth gwrs, sy’n arwain maes o law i lwyfannau ehangach i nifer o bobl hefyd”.
Fe fydd y cyfarfod yn ddiweddarach dydd Mawrth yn dechrau ar y gwaith o geisio ailgydio yn y traddodiad o Eisteddfota lleol a bod tlysau’n medru cael eu cyflwyno i sŵn cymeradwyaeth cynulleidfa unwaith eto.