Yr Almaen i groesawu teithwyr o Brydain sydd wedi eu brechu
06/07/2021
Bydd yr Almaen yn llacio cyfyngiadau ar deithwyr o Brydain wrth i'r wlad gyhoeddi newidiadau i'w rheolau teithio.
Cafodd rheolau llym eu rhoi mewn lle yn sgil pryderon am yr amrywiolyn Delta.
Bydd y Deyrnas Unedig, ynghyd â Phortiwgal, Rwsia, India a Nepal yn symud o restr risg uchaf y wlad i'r ail restr risg uchaf.
Mae hyn yn golygu y bydd modd i deithwyr osgoi cyfnod o hunanynysu ar ôl cyrraedd y wlad os ydynt yn gallu profi eu bod wedi eu brechu yn llawn yn erbyn Covid-19, meddai Evening Standard.
Darllenwch y stori'n llawn yma.