Newyddion S4C

SAGE yn rhybuddio y bydd cyfnod clo arall erbyn yr hydref

Mirror 06/07/2021
Cyfnod clo

Mae pryderon mai dim ond ychydig wythnosau o ryddid fydd i Loegr ar ôl i'r cyfyngiadau gael eu codi yn ddiweddarach y mis hwn. 

Daw'r rhybuddion gan wyddonwyr sy'n cynghori'r Llywodraeth, sy'n dweud y bydd rhaid i'r wlad fynd i gyfnod clo arall yn yr hydref o bosib.

Mae'r Grŵp Cynghori Gwyddonol ar gyfer Argyfyngau (SAGE) yn dweud bod cynnydd mewn achosion Covid-19 yn gosod "risg sylweddol".

Dywedodd y Prif Weinidog Boris Johnson ddydd Llun y byddai rhan fwyaf o gyfyngiadau Covid-19 y wlad yn cael eu codi ar 19 Gorffennaf.

Mae Prif Swyddog Meddygol y Prif Weinidog wedi dweud y byddai codi'r cyfyngiadau yn debygol o arwain at gynnydd mewn achosion a marwolaethau, meddai The Mirror.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.