Newyddion S4C

Cynllun y llywodraeth i fynd i’r afael ag ‘effaith andwyol’ ail gartrefi

06/07/2021
Gwyliau

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun newydd i fynd i’r afael ag effaith ail gartrefi ar gymunedau ar draws Cymru.

Fe amlinellodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, “dull tair elfen uchelgeisiol” yn y Senedd ddydd Mawrth i roi sylw i’r mater. 

Bydd Cynllun Tai mewn Cymunedau Cymraeg hefyd yn cael ei gyhoeddi er mwyn ‘diogelu buddiannau penodol cymunedau Cymraeg eu hiaith’ ar gyfer ymgynghoriad yn yr Hydref.

Dywed y llywodraeth y bydd y tair elfen yn canolbwyntio ar gefnogaeth, fframwaith a system rheoleiddio a chyfraniad tecach.

Mae disgwyl i gynllun peilot gael ei gynnal mewn un ardal yng Nghymru, gyda’r lleoliad i gael ei gadarnhau dros yr haf.

Fe fydd y cynllun yn cynnwys edrych ar y gyfraith gynllunio a chyflwyno cynllun cofrestru statudol ar gyfer lletyau gwyliau.

Hefyd, dymuna’r llywodraeth ddefnyddio systemau treth lleol a chenedlaethol er mwyn sicrhau bod perchnogion ail gartrefi yn gwneud eu cyfraniad teg i’r cymunedau lle maen nhw’n prynu eu hail dai.

‘Brys a difrifoldeb’

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, sydd hefyd a chyfrifoldeb dros dai, Julie James: “Mae'r cynnydd parhaus ym mhrisiau tai yn golygu na all pobl, yn enwedig cenedlaethau iau, fforddio byw yn y cymunedau lle cawsant eu magu mwyach.

“Gall crynodiad uchel o ail gartrefi neu dai gwyliau gael effaith andwyol iawn ar gymunedau bach, ac mewn rhai ardaloedd gallai beryglu'r Gymraeg sy'n cael ei siarad ar lefel gymunedol.

"Rydyn ni eisoes wedi cymryd camau breision ar rai o'r materion hyn – llynedd, ni oedd yr unig wlad yn y Deyrnas Unedig i roi'r pŵer i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll treth gyngor o 100% ar ail gartrefi.

“Ond mae brys a difrifoldeb y sefyllfa hon yn galw am ymyrraeth bellach, a chamau gweithredu uchelgeisiol yn sydyn, er mwyn chwistrellu tegwch yn ôl i'r system dai.

"Gan gymryd argymhellion o adroddiad Dr Brooks, bydd ein dull tair elfen newydd yn sbarduno haf o weithredu er mwyn penderfynu sut byddwn yn mynd i'r afael â'r mater hwn nawr ac yn y dyfodol.

“Rwy'n galw ar bob plaid wleidyddol ar draws y Senedd i gymryd rhan yn hyn, wrth i ni geisio grymuso ein cymunedau i arfer eu hawl i fyw mewn cartrefi o ansawdd da, ble bynnag y bônt yng Nghymru”.

‘Adfer yr Hawl-i-Brynu’

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am atgyfodi cynllun Hawl-i-Brynu yng Nghymru.

Daeth y cynllun i ben yng Nghymru ar 26 Ionawr 2019 wedi pleidlais yn y Senedd ar ei ddyfodol.

Dywedodd y Gweinidog Cysgodol am Newid Hinsawdd, Janet Finch-Saunders: “Nid oes gwadu bod prisiau cynyddol tai yn golygu fod pobl, yn enwedig cenedlaethau iau, yn methu fforddio byw yn y cymunedau y cawsant eu magu.  Ond, mae’r Gweinidog wedi gwneud camgymeriad difrifol drwy gysylltu hyn ag ail gartefi.

“Mae’r adroddiad gan Dr Brooks yn codi pwyntiau pwysig, gan gynnwys nad oes llawer o dystiolaeth mai ail gartrefi yw prif achos prisiau tai uchel yn hytrach na phrynwyr yn symud i fyw yno’n barhaol.

“Mae’n amlwg mewn nifer o gymunedau yng Ngogledd a Gorllewin Cymru nid yw pobl leol yn gallu cystadlu yn y farchnad dai yn erbyn prynwyr o’r tu allan i’r gymuned, felly os mae’r Senedd hon yn wirioneddol wedi ei hymrwymo i gydweithio’n draws-bleidiol ar yr argyfwng dai, gofynnaf fod y Gweinidog yn cytuno i adfer yr Hawl-i-Brynu yn y cymunedau hynny yng Nghymru, gan ailfuddsoddi enillion gwerthiant mewn mwy o dai cymdeithasol a gwarchod tai rhag cael eu gwerthu am 10 mlynedd”.

Ychwanegodd y Gweinidog Cysgodol fod angen i’r Gweinidog “ailystyried y cynllun cofrestru statudol ar gyfer llety gwyliau” sydd wedi ei argymell.

“Dylai’r Gweinidog hefyd gydnabod y ffaith y gallai unrhyw gynnydd yn y dreth trafodiad tir greu argyfwng ar gyfer y sector rhentu, a fyddai’n drychineb ar gyfer cymunedau fel Bangor a Chaernarfon; ac y gallai treialu’r peilot mewn lleoliad penodol dadleoli’r broblem i ardaloedd eraill.

“Byddai’r datrysiad Hawl-i-Brynu dwi’n ei gynnig ar gyfer cymunedau argyfyngus yn grymuso pobl leol nawr ac yn y dyfodol i gael cartref yn eu hardal leol.  Mae’n bolisi cyffrous sy’n haeddu cyfle”.

‘Cicio’r broblem i lawr y lon’

Mae Plaid Cymru wedi beirniadu’r mesurau, gan eu galw’n “gynlluniau annweledig ar gyfer mwy o ymgynghori”.

Mae’r blaid yn galw am gyflwyno cyfres o fesurau gan gynnwys treblu’r dreth Trafodiad Tir ar brynu Ail Gartrefi.

Dywedodd Llefarydd Tai Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor AS: “Mae’r ‘dull uchelgeisiol’ bondigrybwyll hwn o fynd i’r afael ag argyfwng tai ail gartref yn ymarfer o gicio’r broblem i lawr y lon heb gymryd y camau brys angenrheidiol i ddelio â’r argyfwng sy’n wynebu ein cymunedau.

“Ni fydd y mesurau gwan hyn yn ddigon i fynd i’r afael ag argyfwng tai sy’n prysur ymgolli yn ein cymunedau ar raddfa frawychus.

“Nid oes unrhyw beth yma ynglŷn am gau’r bwlch cyfreithiol parthed y dreth gyngor. Nid oes unrhyw beth yma am osod capiau ar ail gartrefi. Ac nid oes unrhyw beth yma am ddod â niferoedd cartrefi gwyliau i berchnogaeth gymunedol trwy ymyrraeth gyhoeddus - gan ddargyfeirio elw i ddatblygiadau lleol fel darparu tai cymdeithasol. Mewn gwirionedd, nid oes unrhyw fanylion dim ond cynlluniau annelwig ar gyfer mwy o ymgynghori.

“Yr hyn sydd ei angen ar ein cymunedau yw gweithredu ar frys cyn ei bod hi’n rhy hwyr - nid ymgynghoriadau poenus na threialon canol y ffordd.

“Mae Plaid Cymru yn mynnu ymyriadau uniongyrchol i liniaru’r argyfwng tai, megis newidiadau i gyfreithiau cynllunio i ganiatáu i gynghorau osod cap ar nifer yr ail gartrefi, treblu’r dreth Trafodiad Tir ar brynu Ail Gartrefi a chau’r bwlch sy’n caniatáu i berchnogion ail gartrefi gofrestru eu heiddo fel “busnesau” er mwyn osgoi talu premiwm treth y cyngor, a diwygio cyfraith Cyllid yr Awdurdodau Lleol i rymuso awdurdodau lleol i reoli'r stoc dai yn well.

“Nid yw’r argyfwng tai sy’n wynebu Cymru wedi’i gyfyngu i ychydig o gymunedau pell i ffwrdd. Mae'n cael sgil-effaith ym mhob cymuned ar hyd a lled ein cenedl. Mae'n ddyled ar y Llywodraeth Lafur i'r bobl yn y cymunedau hyn fynd i'r afael â'r argyfwng gyda'r difrifoldeb a'r brys y mae'n ei haeddu - gan sicrhau eu bod yn gallu byw a gweithio yn yr ardal maen nhw'n ei galw'n gartref”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.