Newyddion S4C

Cipolwg ar benawdau'r bore

24/06/2021
Y Penawdau [NS4C]
NS4C

Bore da gan dîm Newyddion S4C.

Dyma'r prif straeon ar ein gwasanaeth ar fore Iau, 24 Mehefin.

Hyd at 100 o gefnogwyr i gael dychwelyd i gemau pêl-droed yng Nghymru

Mae Newyddion S4C ar ddeall bod hyd at 100 o gefnogwyr yn cael dychwelyd i wylio gemau pêl-droed ar bob lefel yng nghynghreiriau Cymru, yn dilyn "digwyddiadau prawf llwyddiannus" dros y pythefnos diwethaf. Oherwydd hyn, gall pob clwb yn y wlad groesawu cefnogwyr yn ôl i'w stadiwm, meddai Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Mae Clwb Pêl-droed Caernarfon wedi disgrifio’r cyhoeddiad fel “newyddion da iawn o’r diwedd.”

‘Dim tystiolaeth’ fod amrywiolyn Delta+ yn lledaenu yng Nghymru

Nid oes tystiolaeth fod amrywiolyn ‘Delta plus’ Covid-19 yn lledaenu yng Nghymru ar hyn o bryd, yn ôl Llywodraeth Cymru. Hyd yma, mae tystiolaeth yn dangos fod dau fath gwahanol o Delta yn cynnwys mwtaniad K417N, sef Delta-AY.1 (neu 'Delta plus') a Delta-AY.2. Mae’r llywodraeth wedi cadarnhau fod un achos hanesyddol o Delta-AY.1 wedi ei adnabod mewn teithiwr rhyngwladol yng Nghymru, ond nid oes achos o Delta-AY.2 wedi ei adnabod yng Nghymru ar hyn o bryd.

Chweched dosbarth ysgol uwchradd Caernarfon yn hunan-ynysu – North Wales Live

Mae disgyblion chweched dosbarth Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon yn hunan-ynysu ar ôl i ddisgybl brofi'n bositif am Covid-19. Gydag oddeutu 130 o ddisgyblion yn mynychu’r chweched, y gred yw mai o gwmpas 60 ohonyn nhw sydd wedi’u heffeithio. Roedd nifer ohonynt wedi cwblhau eu haroliadau, ac felly ddim yn yr ysgol ar y pryd. 

‘Mannau gwan sylweddol’ mewn triniaeth a gofal strôc

Mae angen gwneud mwy i wella’r ymchwil o amgylch strôc yn ôl dioddefwyr a’r Gymdeithas Strôc. Mewn cyfres o flaenoriaethau, mae’r Gymdeithas yn dweud bod angen rhoi blaenoriaeth i ddod i ddeall a chynnig cefnogaeth emosiynol i ddioddefwyr. Fe wnaeth strôc effeithio ar iechyd meddwl Garry Rees o Dredegar, sydd eisiau gweld ffordd yn y dyfodol o ganfod strôc cyn iddi ddigwydd. 

Disgwyl diweddariad ar deithio rhyngwladol – Sky News

Mae disgwyl i Lywodraeth Prydain ddiweddaru’r cyngor ar deithio rhyngwladol ddydd Iau. Ar hyn o bryd, mae gwledydd wedi’u gosod ar restr werdd, oren neu goch y llywodraeth, gyda’r rheolau lleihau risg Covid-19 yn amrywio fesul grŵp. Mae adroddiadau yn honni y gall y llywodraeth gyhoeddi na fydd yn rhaid i bobl sydd wedi’u brechu’n llawn hunan-ynysu ar ôl dychwelyd o wledydd ‘oren’ o fis Awst ymlaen.

Gwarchodaeth Britney Spears: Disgrifio’r trefniant fel ‘cam-drin’ - The New York Times 

Mae’r gantores Britney Spears wedi galw am ddod â’r rheolaeth gyfreithiol dros ei bywyd i ben. Mewn gwrandawiad yn Los Angeles ddydd Mercher, dywedodd y gantores ei bod eisiau “ei bywyd yn ôl”, gan ddisgrifio’r trefniant fel “camdriniaeth”. Mae Jamie Spears wedi bod yn gyfrifol am reolaeth o faterion personol a busnes ei ferch ers 2008. Mae disgwyl broses gyfreithiol hir cyn dod i unrhyw benderfyniad ynghylch â dod a’r geidwadaeth i ben.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.