Newyddion S4C

‘Dim tystiolaeth’ fod amrywiolyn Delta+ yn lledaenu yng Nghymru

24/06/2021
Delta+

Nid oes tystiolaeth fod amrywiolyn ‘Delta plus’ Covid-19 yn lledaenu yng Nghymru ar hyn o bryd, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Hyd yma, mae tystiolaeth yn dangos fod dau fath gwahanol o Delta yn cynnwys mwtaniad K417N, sef Delta-AY.1 (neu 'Delta plus') a Delta-AY.2.

Mae’r llywodraeth wedi cadarnhau fod un achos hanesyddol o Delta-AY.1 wedi ei adnabod mewn teithiwr rhyngwladol yng Nghymru.

Nid oes achos o Delta-AY.2 wedi ei adnabod yng Nghymru ar hyn o bryd.

Ar hyn o bryd, mae awdurdodau iechyd yng Nghymru yn aros am fwy o dystiolaeth am y mwtaniad a beth sy’n ei wneud yn wahanol i amrywiolyn Delta.

Amrywiolyn Delta, a gafodd ei adnabod yn gyntaf yn India, yw’r prif amrywiolyn yng Nghymru erbyn hyn.

Mae mwtaniad K417N yn cael ei fonitro gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr, sydd eisoes wedi cadarnhau fod 41 achos o amrywiolyn Delta-AY.1 wedi eu darganfod yn y Deyrnas Unedig.

Mae arbenigwyr wedi rhybuddio yn flaenorol y byddai amrywiolion newydd yn datblygu dros amser, gyda rhai yn peri mwy o risg nag eraill.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Tan fod mwy yn wybod am y cytrasau rhain, fe fydd Timoedd Diogelu Iechyd yn ymateb gyda blaenoriaeth uchel yn cael ei roi i ddarganfod a mesurau rheoli ar gyfer achosion Delta gyda K417N."

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, roi diweddariad ar sefyllfa Covid-19 yng Nghymru ddydd Gwener mewn cynhadledd i’r wasg.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.