Newyddion S4C

Hyd at 100 o gefnogwyr i gael dychwelyd i gemau pêl-droed yng Nghymru

24/06/2021
Yr Oval Caernarfon

Bydd hyd at 100 o gefnogwyr yn cael dychwelyd i wylio gemau pêl-droed ar bob lefel yng nghynghreiriau Cymru. 

Mae'r Gymdeithas Bêl-droed yn dweud bod y cadarnhad yn dod yn dilyn "digwyddiadau prawf llwyddiannus" dros y pythefnos diwethaf.

Oherwydd hyn, gall pob clwb yn y wlad groesawu cefnogwyr yn ôl i'w stadiwm, meddai'r gymdeithas.

Gall clybiau wneud cais i CBDC am ymweliad i'r safle os ydynt am groesawu mwy na 100 o gefnogwyr, "er mwyn dangos sut y gallant reoli dros 100 o gefnogwyr yn ddiogel".

Mae'r gymdeithas wedi cyflwyno rhestr o'r hyn sydd i'w ddisgwyl wrth i'r cefnogwyr ddychwelyd.

Maent yn pwysleisio pwysigrwydd i gyrraedd ar eich pen eich hunain neu yn eich swigen gartref, i ddod â gorchudd wyneb ac i gadw pellter cymdeithasol. 

Hefyd, maent yn nodi y bydd rhaid cael gwiriad tymheredd cyn cael mynediad, a bydd rhaid cwblhau 'Cod Ymddygiad Gwylwyr' a 'Holiadur Meddygol'.

Yn ôl y gymdeithas, bydd rhaid gwisgo masgiau bob amser a chadw pellter cymdeithasol trwy gydol y gêm.

‘Newyddion da iawn’

Un tîm sydd wedi croesawu’r newyddion yw Clwb Pêl-droed Caernarfon.

Dywedodd Geraint Jones, Ysgrifennydd y clwb: “Newyddion da iawn o’r diwedd. Ti’n sôn am 18 mis ‘da ni ‘di bod yn aros am hyn.”

Cafodd y cefnogwyr eu siomi ddiwedd mis Mai wrth i’r Cofis chwarae eu gêm yn rownd derfynol gemau ail gyfle Uwch Gynghrair Cymru heb dorf - gêm oedd wedi ei ddisgrifio fel un “enfawr” i’r clwb.

Mae CPD Caernarfon yn gobeithio croesawu mwy na 100 i’r Oval ar gyfer eu gemau cyfeillgar dros yr haf, ar ôl iddynt gael asesiad gan CBDC.

“Da ni’n croesawu’r newyddion - da ni wedi clywed ein bod ni’n cael mwy na 100 ond da ni’n disgwyl i gadarnhau yn union faint.

“Cadw pobl yn saff ydi’r peth pwysig i ni. ‘Da ni ddim wedi cael dim un achos Covid yn y clwb o gwbl hyd i mi wybod ers cychwyn yr holl beth.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.