Disgwyl diweddariad ar deithio rhyngwladol
Mae disgwyl i Lywodraeth Prydain ddiweddaru’r cyngor ar deithio rhyngwladol ddydd Iau.
Ar hyn o bryd, mae gwledydd wedi’u gosod ar restr werdd, oren neu goch y llywodraeth, gyda’r rheolau lleihau risg Covid-19 yn amrywio fesul grŵp.
Daw’r cyhoeddiad wrth i’r Gweinidog Iechyd, Matt Hancock, awgrymu y gall gwyliau i wledydd ‘oren’ fod yn opsiwn ar gyfer pobl sydd wedi cael dau ddos o’r brechlyn.
Ar hyn o bryd, mae’r rhai sy’n teithio i wledydd ‘oren’, fel Ffrainc, Sbaen a Phortiwgal, yn gorfod hunan-ynysu ar ôl dychwelyd.
Mae Sky News yn cyfeirio at adroddiadau sy’n honni y gall y llywodraeth gyhoeddi na fydd yn rhaid i bobl sydd wedi’u brechu’n llawn hunan-ynysu ar ôl dychwelyd o wledydd ‘oren’ o fis Awst ymlaen.
Pryderon o'r Almaen
Un sydd wedi codi pryderon am unrhyw newid yw Angela Merkel, Canghellor yr Almaen.
Mae hi'n dweud y dylai teithwyr o'r Deyrnas Unedig hunan-ynysu pryd bynnag y maent yn cyrraedd yr Undeb Ewropeaidd, yn sgil pryderon am ledaeniad amrywiolyn Delta.
Darllenwch y stori’n llawn yma.