Chweched dosbarth ysgol uwchradd Caernarfon yn hunan-ynysu
24/06/2021
Mae disgyblion chweched dosbarth Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon yn hunan-ynysu ar ôl i ddisgybl brofi'n bositif am Covid-19.
Dywed North Wales Live fod “holl ddisgyblion” y chweched wedi cael eu hanfon adref.
Gydag oddeutu 130 o ddisgyblion yn mynychu’r chweched, y gred yw mai o gwmpas 60 ohonyn nhw sydd wedi’u heffeithio.
Roedd nifer ohonynt wedi cwblhau eu haroliadau, ac felly ddim yn yr ysgol ar y pryd.
Mae North Wales Live wedi gofyn i Gyngor Gwynedd am sylw.
Darllenwch y stori'n llawn yma.