Newyddion S4C

Cipolwg ar benawdau'r bore

28/05/2021
Y Penawdau [NS4C]
NS4C

Bore da gan dîm Newyddion S4C.

Dyma grynodeb o rai o'n prif straeon ar fore dydd Gwener, 28 Mai.

Balchder wrth i berfformiadau byw gael dychwelyd

Mae perfformwyr yng Nghymru wedi croesawu cyhoeddiad fod hawl cynnal perfformiadau byw yng Nghymru unwaith eto. Newyddion S4C fu'n sgwrsio gyda dau sy'n edrych mlaen at gael perfformio eto.

Annog ‘Y Wal Goch’ i beidio teithio er mwyn cefnogi Cymru

Y lle gorau i gefnogi a gwylio Cymru yn chwarae pêl-droed yr haf hwn fydd o’ch soffa, eich tafarn leol neu o’ch gardd – yn ôl neges ddiweddaraf Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru. Mae’r llywodraeth a’r gymdeithas yn annog cefnogwyr i aros gartref yn hytrach na theithio dramor i gefnogi’r tîm cenedlaethol yn ystod eu hymgyrch Euro 2020.

Awgrym y bydd Llywodraeth y DU yn oedi eu cynllun llacio cyfyngiadau Covid-19

Mae cynllun Llywodraeth y DU i lacio holl gyfyngiadau Covid-19 ym mis Mehefin yn y fantol. Mae Prif Weinidog y DU Boris Johnson wedi dweud "efallai y bydd angen aros" cyn codi'r holl gyfyngiadau ar 21 Mehefin yn sgil pryderon am amrywiolyn India Covid-19.

Ryan Giggs i ymddangos o flaen Llys y Goron

Bydd Ryan Giggs yn ymddangos o flaen Llys y Goron Manceinion ddydd Gwener. Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru yn wynebu cyhuddiadau o achosi niwed corfforol i ddynes yn ei 30au ac ymosod ar ddynes arall yn ei 20au mewn lleoliad yn Salford fis Tachwedd diwethaf. Plediodd Giggs yn ddieuog i'r cyhuddiadau mewn gwrandawiad blaenorol.

Rhybuddio pobl i 'barchu' wrth deithio dros benwythnos Gŵyl y Banc

Gyda disgwyl i nifer fawr o bobl deithio i Gymru dros benwythnos Gŵyl y Banc, mae Heddlu Gogledd Cymru, cynghorau lleol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi annog pobl i barchu eraill a'u hamgylchedd. Daw’r alwad ar ôl i nifer o ardaloedd yng Nghymru, gan gynnwys y parc, wynebu problemau mawr gyda pharcio, sbwriel a gwersylla anghyfreithlon y llynedd ar ôl llacio cyfyngiadau Covid-19.

Wally'r Walrws wedi codi pac a chyrraedd Ffrainc

Mae walrws enwocaf Cymru wedi codi pac a chyrraedd Ffrainc. Cafodd Wally'r Walrws ei weld gyntaf yn Sir Benfro ddechrau mis Mai, gyda thwristiaid yn heidio i Ddinbych-y-pysgod i'w weld. Ond, erbyn hyn, mae'r wasg Ffrengig yn adrodd fod walrws wedi cael ei weld yng ngorllewin y wlad, yn nhref arfordirol Les Sables-d'Olonne.

Dilynwch ddatblygiadau diweddaraf ar ap a gwefan Newyddion S4C drwy gydol y dydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.