Newyddion S4C

Balchder wrth i berfformiadau byw gael dychwelyd

28/05/2021

Balchder wrth i berfformiadau byw gael dychwelyd

Mae perfformwyr yng Nghymru wedi croesawu cyhoeddiad fod hawl cynnal perfformiadau byw yng Nghymru unwaith eto.

Nid oedd perfformiadau byw wedi cael mynd y neu blaen hyd yma oherwydd cyfyngiadau iechyd cyhoeddus.

Ond, fe gadarnhaodd Llywodraeth Cymru brynhawn dydd Iau y byddai perfformiadau byw yn cael dychwelyd i bob lleoliad yng Nghymru, a hynny ar unwaith.

‘Mor falch’

Mae Rhydian Jenkins wedi bod yn canu ar lwyfannau ar draws Cymru ers yn blentyn.

Dywedodd wrth Newyddion S4C: “Dwi mor falch i glywed bod cerddoriaeth fyw yn ail-ddechrau.

“Mae gymaint o cerddorion ac actorion a lot o bobl yn y diwydiant cerddoriaeth ‘di bod allan o waith a yn fwy pwysig cael perfformio o flaen cynulleidfaoedd fyw oherwydd sefyllfa Covid a’r pandemig”.

Mae Zac Mather yn aelod o’r band CHROMA ac mae yntau hefyd yn falch o weld dychweliad perfformiadau byw.

Medd Zac: “Dwi’n hollol excited gyda newyddion ddoe bod perfformiadau byw a gigs yn cael dod ‘nol.

“Mae’r diwydiant yng Nghymru wedi wynebu blwyddyn caled iawn gyda’r holl ansicrwydd ond gawn ni ddawnsio eto’n fuan”, ychwanegodd.

‘Asesiad risg llawn’

Mewn neges ar eu cyfryngau cymdeithasol, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y bydd angen "asesiad risg llawn ar gyfer pob lleoliad yn unol â'r canllawiau sydd ar waith ar gyfer lletygarwch a chanllawiau perfformio'r llywodraeth.

"Mae atal perfformiadau a digwyddiadau byw wedi bod yn ergyd fawr i'n lles cymdeithasol, economaidd a chelfyddydol", meddai'r llefarydd.

"Byddwn yn parhau i ddarparu cymorth i'n sectorau cerddoriaeth a chelfyddydau drwy ein Cronfeydd Adferiad Diwylliannol, Llawrydd a Chadernid Economaidd”, ychwanegodd.

Bydd rhaid i berfformiadau byw ddilyn canllawiau penodol gan gynnwys cadw pellter cymdeithasol o ddau fetr a chyflwyno systemau unffordd.

Dan y canllawiau, bydd hefyd angen dilyn mesurau hylendid ychwanegol gan gynnwys diheintio cyfarpar a glanhau arwynebau caled sy'n cael eu cyffwrdd yn rheolaidd.

Daw’r cyhoeddiad wedi i ddigwyddiadau torfol gan gynnwys Tafwyl gael eu cynnal yn ddiweddar fel rhan o gynllun peilot y llywodraeth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.