
Canllaw cyflym i gigs Oasis yng Nghaerdydd dros y penwythnos
Canllaw cyflym i gigs Oasis yng Nghaerdydd dros y penwythnos
Os ydych chi'n mynd i un o’r gigs Oasis y penwythnos yma yng Nghaerdydd, dyma ganllaw cyflym.
Yn gyntaf – erbyn pryd sydd angen cyrraedd?
Mae’r giatiau yn agor am 16:00, wedyn mae’r grŵp cyntaf sy'n cefnogi Oasis sef Cast yn dechrau am 18:00, Richard Ashcroft am 19:00 a wedyn fe fydd Noel a Liam yn cyrraedd y llwyfan erbyn 20:15.
O ran y ffyrdd, o 12:00 fe fydd y rhan fwyaf o'r ffyrdd o gwmpas Stadiwm Principality wedi cau, gan gynnwys Stryd y Castell, Stryd Westgate a Heol Eglwys Fair, felly bydd angen cynllunio teithiau o flaen llaw.

Bydd gorsaf Caerdydd Canolog ar agor ond mae disgwyl ciwiau ar ôl y gig. Bydd gorsaf Heol y Frenhines yn cau am 22:00.
Ni fydd angen dod ag arian yn eich pwrs neu bocedi, gan fod y stadiwm yn ddi-arian parod ac fe fydd to'r stadiwm ar gau hefyd.
Felly, fe fydd angen paratoi o flaen llaw, dod â cherdyn banc neu ffôn, a mwynhau gyda 60,000 o bobl eraill wrth i’r brodyr o Fanceinion ddod at ei gilydd ar ôl bron i 16 mlynedd.
Y ddwy noson yng Nghaerdydd fydd y rhai cyntaf o'r 41 o gigiau gan y ddau frawd ar draws y byd.
Ar ôl Caerdydd, fe fydd y band yn mynd yn eu blaen i Fanceinion am bum noson cyn mynd ymlaen i Lundain, Caeredin a Dulyn.
Yn dilyn hynny, fe fydd y band yn hedfan i Toronto yng Nghanada i ddechrau ar eu gigiau rhyngwladol.
Fe gafodd yr awyr dros Gaerdydd nos Fercher ei oleuo fel 'Champagne Supernova' gan ddronau cyn dechrau y daith fyd-eang.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1940710188551754193