
£4.5 miliwn i Gastell Cyfarthfa sy'n dathlu 200 mlynedd
Wrth i Gastell Cyfarthfa ym Merthyr Tudful ddathlu ei ben-blwydd yn 200 oed, fe fydd yr Ardal Dreftadaeth yno yn derbyn £4.5 miliwn ar gyfer gwaith cynnal a chadw ar y safle.
Fe fydd gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, Cadw, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn cyfrannu £2.25 miliwn yr un i fynd i'r afael â'r dirywiad i ran hynaf Castell Cyfarthfa, yn ogystal â gwarchod Pont-y-Cafnau gyfagos – sef y bont reilffordd haearn hynaf yn y byd.
Cafodd Castell Cyfarthfa ei adeiladu’n wreiddiol fel cartref teuluol y meistr haearn William Crawshay II yn 1825.
Ynghyd â gweithfeydd haearn eraill Merthyr - Dowlais, Penydarren a Plymouth - Cyfarthfa oedd yn gyfrifol am wneud Merthyr y ganolfan gynhyrchu haearn fwyaf y byd rhwng 1800 a 1860.
Mae’r castell bellach yn safle hanesyddol sydd hefyd yn gartref i amgueddfeydd ac orielau celf nodedig.
Dyw 80% o’r castell, a oedd unwaith yn safle Ysgol Uwchradd Cyfarthfa, ddim ar agor i’r cyhoedd ar hyn o bryd.
Bydd Sefydliad Cyfarthfa hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â'r Cyngor i gynnal y gwaith.
Dywedodd Prif Weithredwr yr elusen, Jess Mahoney: "Bydd y cyllid hanfodol hwn yn galluogi gwaith cadwraeth hanfodol i ddigwydd, gan gadw ased gwerthfawr - unig adeilad rhestredig Gradd 1 Merthyr - ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
“Bydd hefyd yn helpu i osod y sylfaen ar gyfer gwireddu ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y safle,” meddai.

'Atgofion gwych'
Nod y gwaith cynnal a chadw yw rhoi hwb i'r nifer o ymwelwyr sy'n dod i’r castell, y gerddi a'r llyn.
Dywedodd y Cynghorydd Brent Carter, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful: "Mae Castell Cyfarthfa yn lle arbennig i lawer o bobl ledled Merthyr Tudful, ac yn seiliedig ar adborth gan drigolion, gwyddom fod hwn hefyd yn brosiect o flaenoriaeth iddyn nhw.
“Aeth llawer o bobl i'r ysgol yno, gan gynnwys fi, ac mae'n dal llawer o atgofion gwych, felly mae'n wych gweld y cynlluniau hyn yn dechrau dod i ffrwyth."
Dros y penwythnos fydd nifer o ddigwyddiadau i nodi deucanmlwyddiant y castell, gan gynnwys sesiynau am hanes y castell a theithiau cerdded ar hyd y safle.
Dywedodd y Gweinidog Diwylliant a Sgiliau, Jack Sargeant bod y castell yn “sefyll fel darn enfawr o dreftadaeth Gymreig, sy'n adrodd hanes ein gorffennol diwydiannol a'n taith ddiwylliannol".
"Mae'r cyllid hwn yn cynrychioli ein hymrwymiad i warchod trysorau ein cenedl wrth sicrhau eu bod yn parhau i fod yn fannau bywiog, hygyrch i gymunedau ac ymwelwyr fel ei gilydd," meddai.
Mae Ardal Treftadaeth Ddiwydiannol Cyfarthfa yn cynnwys rhai o asedau etifeddiaeth pwysicaf Cymru, gan gynnwys y castell, gwaith haearn a phont Pont-y-Cafnau.