Mae dyn wnaeth daflu cyffuriau allan o ffenest ei gar tra'n ceisio ffoi rhag yr heddlu ar yr A470 wedi cael ei garcharu am bedair blynedd.
Cafodd James Gapper, 35 oed o Dreharris ym Merthyr Tudful ei arestio ym mis Mai eleni.
Nid oedd Gapper wedi stopio i'r heddlu yn oriau mân y bore 26 Mai.
Yn ei Volkswagen Polo ceisiodd ffoi rhag yr heddlu ar gyflymder, gan osgoi cerbydau'r heddlu a bron a tharo mewn i sawl cerbyd arall.
Wrth iddo ffoi roedd Gapper yn taflu cyffuriau allan o ffenest ei gar.
Wedi i'r heddlu ei rwystro rhag ffoi cafodd ei arestio ac roedd ganddo gocên, knuckle dusters a llafn mawr yn ei feddiant.
Roedd swyddogion Heddlu De Cymru wedi chwilio ei eiddo hefyd a darganfod ei fod yn tyfu canabis yn ei llofft a bod ganddo fagiau gyda phowdr gwyn ynddynt.
Plediodd Gapper yn euog i sawl trosedd yn Llys Ynadon Merthyr ar 27 Mai. Roedd y troseddau'n cynnwys bod mewn meddiant gyda'r bwriad o gyflenwi cocên, meddiant o arf ymosodol mewn man cyhoeddus, gyrru'n beryglus, gyrru tra dan waharddiad, a chynhyrchu cyffur rheoledig canabis.
Plediodd yn euog i naw trosedd i gyd.
Yn Llys y Goron Caerdydd ar 1 Gorffennaf cafodd James Gapper ei ddedfrydu i bedair blynedd a chwe mis yn y carchar.
Mae hefyd wedi ei wahardd rhag gyrru am ddwy flynedd.