Difrod i westy ar Ynys Môn ar ôl tân
Mae difrod mawr i westy ar Ynys Môn ar ôl tân nos Iau.
Fe gafodd criwiau Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru eu galw i Yr Harbwr yng Nghemaes ychydig wedi 23:00.
Fe wnaeth y gwasanaeth tân gadarnhau wrth Newyddion S4C bod sawl un o'r cerbydau tân wedi bod yn bresennol.
Roedd y gwasanaethau brys yn dal ar y safle fore Gwener.
Fe wnaeth yr heddlu gau Stryd y Bont ger y gwesty ac roedden nhw'n annog pobl i osgoi'r ardal.
Mewn datganiad dywedodd y cyngor sir bod y ffordd wedi ail-agor am 09:00 ond bod goleuadau traffig dwy ffordd yn eu lle "oherwydd y risg fod fwy o lechi rhydd yn disgyn o'r to".
"Mae'r fynedfa gyntaf i'r Stâd Gwelfor sydd oddi fewn cwmpas y goleuadau traffig yn parhau ar gau am y tro tan hysbysiad pellach."
Ni chafodd unrhyw un eu hanafu yn y digwyddiad.