Newyddion S4C

Cwest: 'Nifer o ffactorau' yn gyfrifol am farwolaeth dynes ym maes parcio Ysbyty Glan Clwyd

 Mary Owen-Jones

Clywodd cwest fod cyfuniad o sawl ffactor wedi cyfrannu at farwolaeth dynes a gafodd ei tharo gan gar y tu allan i ysbyty yn y gogledd.

Roedd Mary Owen-Jones, 51 oed, wedi bod yn ymweld â'i merch yn yr uned famolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd pan ddigwyddodd y ddamwain ar Ddydd Calan, 2023.

Cafodd ei chludo i adran achosion brys yr ysbyty a chanfuwyd ei bod wedi torri ei choes.

Ond pan ddirywiodd ei chyflwr cafodd ei chludo mewn hofrennydd i'r uned drawma yn Ysbyty Prifysgol Brenhinol Stoke.

Bu farw 36 awr yn ddiweddarach o waedu ar yr ymennydd, a gafodd ei waethygu gan y cyffur Warfarin yr oedd yn ei ddefnyddio yn dilyn llawdriniaeth flaenorol ar y galon.

Nyrs

Clywodd y cwest yn Rhuthun fod Mrs Owen-Jones, o Ffordd Dinerth, Llandrillo-yn-Rhos, wedi cael ei tharo gan Audi llwyd Chloe Thelwell, nyrs staff yn yr ysbyty, a oedd yn mynd adref ar ôl gorffen ei shifft.

Dywedodd Ms Thelwell wrth yr heddlu, ar ôl gadael y prif faes parcio, ei bod wedi troi tuag at y briffordd gan dorri'r gornel wrth droi i'r dde wrth y gyffordd. 

Dywedodd mai dim ond 10-15mya yr oedd hi'n ei wneud, gyda'r terfyn cyflymder ar dir yr ysbyty yn 10mya.

Disgrifiodd tystion sut y dywedodd y nyrs dro ar ôl tro wrth bobl a aeth i gynorthwyo Mrs Owen-Jones: "Wnes i ddim ei gweld hi."

Ond dywedodd un o'r tystion, Dewi Wyn Williams, fod ffenestr flaen yr Audi wedi'i niwlio'n llwyr, gan arwain iddo feddwl wrtho'i hun: "Does ryfedd nad oeddech chi wedi'i gweld hi, allwch chi ddim gweld dim byd allan o'r (sgrin) honno."

Wedi'i holi mewn cyfweliad â'r heddlu a oedd y ffenestr flaen wedi'i niwlio, atebodd Ms Thelwell: "Dydw i ddim yn meddwl hynny."

Pe bai wedi bod, meddai, ni fyddai hi wedi gallu gyrru allan o'r allanfa o'r maes parcio. Dywedodd yr ymchwilydd gwrthdrawiadau fforensig Ian Thompson, na allai wneud sylw ar gyflwr y ffenestr flaen gan fod y car wedi ei symud o'r lleoliad.

Dillad tywyll

Dywedodd fod Mrs Owen-Jones, a oedd yn gwisgo dillad tywyll, yn croesi'r ffordd dim ond ychydig fetrau o groesfan gerddwyr wedi'i goleuo a dylai fod wedi gweld y cerbyd yn agosáu gyda'i oleuadau blaen ymlaen.

Roedd y ffactorau hynny, ynghyd â'r ffaith bod Ms Thelwell wedi torri'r gornel, i gyd wedi chwarae rhan yn y gwrthdrawiad.

Dywedodd John Gittins, uwch grwner Gogledd Cymru (Dwyrain a Chanol), fod Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi ystyried dwyn cyhuddiad o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.

Ond penderfynwyd yn y diwedd ar ôl gweld yr holl dystiolaeth nad oedd unrhyw obaith realistig y byddai rheithgor yn canfod Ms Thwelwell yn euog.

Gan gofnodi casgliad o farwolaeth mewn gwrthdrawiad ffordd, dywedodd y crwner: "Roedd yn gyfuniad o'r holl elfennau."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.