Newyddion S4C

Galarwyr yn ymgynnull i gofio Diogo Jota ym Mhortiwgal

Cofio Diogo Jota

Mae galarwyr wedi ymgynnull i gofio pêl-droediwr Lerpwl Diogo Jota mewn gwasanaeth ym Mhortiwgal ddydd Gwener, cyn ei angladd ddydd Sadwrn.

Bu farw'r tad i dri o blant 28 oed a'i frawd André Silva mewn gwrthdrawiad car yn Sbaen ddydd Iau.

Roedd eu car Lamborghini wedi gwyro oddi ar ffordd yr A-52 yn ardal Zamora ar ôl i un o'r olwynion fyrstio am tua 00.40 amser lleol.

Dywedodd Jose Manuel Macedo, offeiriad plwyf yn Igreja Matriz de Gondomar yn Sao Cosme, y byddai gwasanaeth i gofio’r brodyr y Capela da Ressurreicão gerllaw.

Bydd yr angladd yn Igreja Matriz ddydd Sadwrn am 10:00.

Yn y cyfamser mae Clwb Pêl-droed Lerpwl wedi agor llyfrau cydymdeimlad.

Gall cefnogwyr ac aelodau'r cyhoedd fynd i dderbynfa Anfield Road dros y dyddiau nesaf i lofnodi neges, neu wneud hynny arlein.

Dywedodd rheolwr Lerpwl, Arne Slot, fod yna “ymdeimlad llwyr o sioc” yn y clwb yn sgil marwolaeth y chwaraewr a oedd wedi priodi 11 diwrnod yn ôl.

“Mewn sawl ffordd, roedd yn berffaith i Diogo a’i deulu, sy’n ei gwneud hi’n fwy torcalonnus fyth y dylai ddod i ben fel hyn,” ychwanegodd Slot.

Roedd Jota yn rhan o garfan Lerpwl wnaeth ennill Uwch Gynghrair Lloegr tymor diwethaf a Chynghrair y Cenhedloedd UEFA gyda Phortiwgal.

Dywedodd cyd-chwaraewr Jota gyda Phortiwgal, Cristiano Ronaldo, nad oedd y newyddion "yn gwneud synnwyr”.

"Roeddem ni newydd fod gyda'n gilydd gyda'r tîm cenedlaethol, roeddet ti newydd briodi," meddai.

Fe anfonodd Ronaldo ei gydymdeimladau at deulu Jota, ei wraig a'u plant, gan ychwanegu: "Dwi'n gwybod y byddi di gyda nhw bob amser."

Ddydd Mercher, cyhoeddodd Jota a Cardoso, 28, luniau a fideo o'u priodas, gyda'r geiriau: "Diwrnod na fyddwn ni byth yn ei anghofio."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.