Arestio dyn ar ôl i graffiti ymddangos ar gerflun Lloyd George yng Nghaernarfon
Mae dyn wedi ei arestio ar ôl i graffiti ymddangos ar gerflun y cyn Brif Weinidog David Lloyd George yng Nghaernarfon ddydd Mawrth.
Cafodd dyn 38 oed o Benmaenmawr yn Sir Conwy ei arestio ddydd Iau o dan amheuaeth o achosi difrod troseddol.
Mae’r dyn bellach wedi’i ryddhau ar fechnïaeth wrth i ymholiadau'r heddlu barhau.
Roedd yr ysgrifen ar y cerflun yn cynnwys sloganau yn galw am ‘Balestina Rydd’ a'n galw Lloyd George yn wladychwr.
Dywedodd y Cynghorydd Cai Larsen ar y pryd bod ffyrdd eraill o brotestio yn erbyn yr hyn sy'n digwydd yn Gaza sydd yn fwy addas na pheintio cerflun.
"Allai weld yn iawn pam bod pobl yn teimlo yn gry’ am yr hyn sydd yn digwydd mewn gwahanol rhannau o’r byd ac yn Gaza yn arbennig," meddai.
"Ond dydw i ddim yn meddwl mai niweidio eiddo ydy’r ffordd o wneud hynny’n glir.
"Mae beth sydd yn digwydd wedi digwydd ar y maes yng Nghaernarfon, ac mae wylnos i gofio’r rhai yn Palestina yn cael ei gynnal bob nos Sul ar ochr arall y maes.
"I fi mae hynny’n beth mwy addas o lawer, i fynychu rhywbeth fel’na. Mae hynny’n fwy effeithiol."