Newyddion S4C

'Gandryll': Bethan Gwanas yn rhoi'r gorau i'w cholofn yn yr Herald Gymraeg ar ôl 26 mlynedd

Bethan Gwanas

Mae Bethan Gwanas wedi dweud ei bod hi’n “gandryll” ar ôl i’r Herald Gymraeg wrthod cyhoeddi colofn ganddi am Gaza.

Dywedodd yr awdur a’r cyflwynydd teledu, sydd wedi cyfrannu dros fil o golofnau at y papur dros gyfnod o 26 mlynedd ers diwedd y 90au, ei bod bellach wedi ymddiswyddo o sgwennu'r golofn.

Roedd hi’n “berwi” am nad oedd y golygydd wedi cysylltu â hi i roi gwybod am y penderfyniad i beidio a chyhoeddi'r golofn, meddai wrth Newyddion S4C ddydd Gwener.

“Rydw i wedi siomi nad oedden nhw wedi dweud wrtha i eu bod nhw’n ystyried sensro'r golofn,” meddai gan ychwanegu ei bod hi wedi cyhoeddi colofnau am Gaza yn y gorffennol.

Mae’r Herald Gymraeg bellach yn cael ei gynnwys fel atodiad o fewn y Daily Post bob dydd Mercher.

Dywedodd Bethan Gwanas nad oedd hi’n ymwybodol nad oedd ei cholofn yn y papur nes “gyrru i’r dre’ yn unswydd” i’w brynu.

Ar ôl cysylltu â nhw cafodd wybod, meddai, eu bod nhw’n pwyllo cyn cyhoeddi oherwydd trafferthion y BBC yn sgil sylwadau artistiaid yn Glastonbury am yr IDF - lluoedd Israel.

Wrth ymateb, dywedodd golygydd y Daily Post, Alex Hickey bod Bethan Gwanas yn “gyfrannwr hirhoedlog a gwerthfawr” i’r Herald Gymraeg a’r Daily Post.

“Fodd bynnag, ar ôl ystyriaeth ofalus, roedd agweddau penodol ar y golofn hon nad oeddent yn cyd-fynd â'n safonau golygyddol,” meddai. 

“Rydym yn croesawu sylwadau ac adrodd trylwyr ar Gaza ac yn gobeithio cynnal deialog gyda'n holl golofnwyr a chyfranwyr ar y ffordd orau o wasanaethu ein cynulleidfaoedd ar y pwnc hwn.”

'Darnio plant'

Dywedodd Bethan Gwanas  nad oedd hi’n gweld unrhyw beth eithafol am y golofn. “Doeddwn i ddim yn dweud [fel Bob Vylan], ‘Death, death to the IDF.”

Ychwanegodd y gallai'r golygydd fod wedi cysylltu â gofyn iddi newid ambell air.

"Fyddwn i wedi licio gwybod pa frawddegau oedd yn croesi'r llinell," meddai.

Mae Bethan Gwanas bellach wedi cyhoeddi'r golofn i'r Herald Gymraeg ar-lein, ac yn dweud y bydd ei cholofn nesaf yng nghylchgrawn Golwg.

Mae’r golofn yn trafod sylwadau Bob Vylan yn Glastonbury a’n dweud: “mae ’na rywbeth llawer gwaeth na galw am ddiwedd yr IDF, sef yr IDF ei hun.”

Ychwanega, “ers pryd mae canu yn waeth na saethu a lladd a darnio plant diniwed yn eu miloedd?”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.