Newyddion S4C

Oasis yn denu tyrfa o bedwar ban byd i Gaerdydd

Oasis

Mae pobl o bedwar ban byd wedi heidio i Gaerdydd ddydd Gwener, ar gyfer gig fawr y band Oasis yn ddiweddarach.

Dyma'r tro cyntaf i'r brodyr Gallagher berfformio gyda'i gilydd ers bron i 16 o flynyddoedd, ac mae canol y ddinas yn prysuro cyn y digwyddiad nos Wener.

Roedd Lachlan Weekes a Jayden Helm, a dreuliodd fwy na diwrnod yn teithio o Sydney, Awstralia, i fynychu'r cyngerdd, ymhlith y cefnogwyr a oedd yn ymgynnull cyn y gig.

Dywedodd Mr Weekes: “Rydym wedi bod yn ei gynllunio ers talwm. Roedden ni bob amser yn dweud, pe bydden nhw'n dod yn ôl at ei gilydd, y bydden ni yn y sioe gyntaf honno.”

Dywedodd Mr Helm: “Rydym wedi bod yn gefnogwyr gydol oes - rydym yn 22 ac yn 21 oed, felly dydyn ni ddim wedi cael cyfle i'w gweld nhw o'r blaen.

“Roedden ni bob amser yn dweud ei bod hi'n werth dod, ni fyddem yn ei golli am y byd,” ychwanegodd.

“I gymryd amser i ffwrdd o'r gwaith i ddod draw yma, mae'n fwy na gwerth chweil.”

Image
Ffans Oasis

Dywedodd Lawrence Evans, o ardal Abertawe, fod ei “fywyd wedi newid” pan ddechreuodd wrando ar y band cyn iddo wedyn ddechrau chwarae cerddoriaeth ac ysgrifennu caneuon.

Dywedodd: “Nhw oedd y band a wnaeth i mi sylweddoli faint roedd cerddoriaeth gitâr yn ei olygu i mi.

“Mae’n rhywbeth sy’n aros gyda chi am byth. Os ydych chi’n mynd i mewn i’r math hwn o gerddoriaeth, rwy’n credu ei fod yn eich enaid am byth,” ychwanegodd.

Dywedodd ei fab Jimmy am y cyngerdd: “Mae’r ffaith ei fod yng Nghymru yn arbennig iawn i ni.

“Dyma’r tro cyntaf i mi gael gweld Oasis, mae fy nhad wedi colli cyfrif, mae wedi’u gweld nhw nifer fawr o weithiau.

“Rydw i wedi bod yn aros am y diwrnod hwn ar hyd fy mywyd.”

Dywedodd Alex Schuetz, ffan Oasis o’r Almaen, nad oedd modd teithio’n ddigon pell i weld y band.

“Y tro cyntaf i mi eu gweld nhw oedd ym 1997,” meddai.

“Y tro diwethaf oedd ym Manceinion yn 2009, ychydig cyn iddyn nhw chwalu.

“Cefais docyn hyd yn oed ar gyfer gŵyl fach yn yr Almaen ac ar y fferi i’r ŵyl honno clywais eu bod nhw wedi chwalu.

“Meddyliais, ‘O Dduw’ - roedd rhywbeth yn marw y tu mewn i mi – mae’n swnio braidd yn dwp, ond fe gymerodd oesoedd i mi (i ddod dros y siom).”

Dwy noson yn y brifddinas

Cyhoeddodd y brodyr daith Oasis Live ‘25 fis Awst diwethaf, gan ddechrau gyda dau ddyddiad yng Nghaerdydd ddydd Gwener a dydd Sadwrn, cyn teithio ar draws y DU ac Iwerddon.

Mae disgwyl i ddrysau Stadiwm Principality agor am 17:00, gyda Cast a phrif leisydd The Verve, Richard Ashcroft, yn agor y cyngerdd.

Mae disgwyl i gyn-aelodau Oasis ddychwelyd, gydag Andy Bell ar y bas, a Gem Archer a Paul “Bonehead” Arthurs ar y gitarau.

Gwelwyd Noel yn dod oddi ar y trên yng Nghaerdydd ddydd Mawrth, tra bod arddangosfa drôn yn sillafu enw'r band i'w gweld uwchben y stadiwm ddydd Mercher.

Mae cefnogwyr ledled y ddinas hefyd wedi clywed yr hyn y maen nhw'n ei gredu oedd sain y band yn ymarfer yn ystod yr wythnos.

Llun: PA

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.