Newyddion S4C

Trump yn ‘siomedig’ gyda Putin wrth i ‘fwy nag erioed’ o ddronau a thaflegrau daro Wcráin

Doanld Trump

Mae Donald Trump wedi dweud na wnaeth unrhyw gynnydd wrth siarad ar y ffon â Vladimir Putin wrth i ymosodiadau Rwsia anafu 23 yn Kiev.

Dywedodd Wcráin ei fod wedi ei tharo gan y nifer uchaf erioed o ddronau a thaflegrau mewn ymosodiad nos Iau a bore Gwener. Roedd yr ymosodiad cynnwys 11 o daflegrau a 540 o ddronau, meddai byddin y wlad.

Fe gafodd nifer eu saethu i lawr ond mae difrod wedi ei adrodd yn bron i bob ardal yn y brifddinas Kiev.

Roedd difrod sylweddol i seilwaith rheilffordd y wlad, meddai’r fyddin.

Daeth yr ymosodiad oriau wedi i Arlywydd yr Unol Daleithiau ddweud ei fod wedi ei siomi gan sgwrs ar y ffôn ag Arlywydd Rwsia.

"Rwy'n siomedig iawn gyda'r sgwrs a gefais heddiw gyda'r Arlywydd Putin, oherwydd nid wyf yn credu ei fod yno, ac rwy'n siomedig iawn,” meddai Donald Trump wrth ohebwyr.

“Fe wnaethon ni siarad, roedd yn alwad eithaf hir.

“Fe wnaethon ni siarad am lawer o bethau gan gynnwys Iran. 

“Fe wnaethon ni hefyd siarad am, fel y gwyddoch, y rhyfel gyda’r Wcráin, a dydw i ddim yn hapus am hynny.

“Na, wnes i ddim cynnydd,” meddai pan ofynnwyd iddo am y sgwrs.

"Rwy'n dweud nad yw'n edrych fel ei fod yn mynd i stopio, ac mae hynny'n anffodus.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Kremlin yn dilyn yr alwad na fyddai Vladimir Putin yn “cefnu” ar y rhyfel.

Mae Trump yn debygol o alw Arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelenskyy, ddydd Gwener.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.