Aaron Ramsey yn arwyddo i’r Pumas ym Mecsico
Mae chwaraewr canol cae Cymru Aaron Ramsey wedi arwyddo i Glwb pêl-droed Club Universidad Nacional ym Mecsico, sy'n cael eu hadnabod fel y Pumas.
Fe wnaeth Ramsey ymuno â'r clwb ddydd Iau wedi i'w gyfnod gyda Chaerdydd ddod i ben ar ôl dwy flynedd.
Bydd y Cymro 34 oed yn ymuno â'r Pumas hanner ffordd drwy dymor y Liga MX.
Ar hyn o bryd mae'r clwb yn y 10fed safle yn y gynghrair, a bydd angen iddyn nhw gadw eu lle yn y 10 uchaf er mwyn cymhwyso ar gyfer y gemau ail-gyfle ar ddiwedd y tymor.
Roedd cyfnod Ramsey gyda Chaerdydd yn llawn anafiadau, ac fe chwaraeodd 23 o gemau'n unig yn ystod dau dymor yno.
Wrth arwyddo i'r clwb, dywedodd Llywydd Pumas, González Pérez y bydd Ramsey yn gallu dangos ei dalent ar y cae wrth iddyn nhw wthio i gyrraedd y gemau ail-gyfle.
"Roedd gen i'r cyfle i'w weld yn chwarae rhai wythnosau yn ôl," meddai González Pérez.
"Dwi'n hapus i weld ei farn am y clwb, yn ogystal â'r hyn mae'n cynnig ar y cae.
"Mae gan Pumas chwaraewr gwych, a dwi'n sicr y bydd ei dalent yn dangos ar y cae."
Mae Ramsey eisoes wedi dechrau ymarfer gyda'r clwb ac fe allai chwarae ei gêm gyntaf yn erbyn Leganes o Sbaen mewn gêm gyfeillgar nos Sul.