
Llwyddiant i gi therapi o Sir Gâr yng Ngwobrau Ci Ysgol y Flwyddyn
Mae ci therapi sy'n gweithio gyda phlant ag anghenion dysgu ychwanegol yn Sir Gâr wedi ennill yr ail wobr am Gi Ysgol y Flwyddyn dros y DU.
Cavapoo pedair oed ydi Dennis sy'n cefnogi disgyblion yn Ysgol Heol Goffa yn Llanelli i ddatblygu hyder a sgiliau cyfathrebu.
Ddydd Iau fe deithiodd Dennis i San Steffan yn Llundain gyda Chynghrair Cŵn Cenedlaethol y DU lle roedd y wobr yn cael ei chyhoeddi.
Fe ddaeth Dennis yn ail dros Brydain gyfan ond yn gyntaf ymhlith y cŵn o Gymru yn y gystadleuaeth.
Mae ei berchennog, Katie Rees, wedi bod yn gweithio yn yr ysgol am dros 12 mlynedd.

Dywedodd Pennaeth Ysgol Heol Goffa, Ceri Hopkins, fod Dennis yn "aelod gwerthfawr o'r tîm" a’i fod yn llawn haeddu’r clod.
“Rydym yn hapus dros ben fod Dennis wedi ei gydnabod am ei waith aruthrol a’r effaith mae’n ei gael ar ein dysgwyr a staff yn yr ysgol,” meddai.
“Rydym mor falch ei fod wedi dod yn gyntaf ymhlith cŵn Cymru ac yn sicr fe yw’n ‘top dog’ ni.
“Mae Dennis yn aelod gwerthfawr iawn o’n tîm gwych yma yn Ysgol Heol Goffa.
"Mae’n dod ag elfen arall i’n cwricwlwm therapiwtig - mae ei natur dawel a charismatig yn helpu disgyblion i ddatblygu hyder a chyfathrebu.
"Mae e hefyd yn helpu disgyblion i ddatblygu eu sgiliau darllen."
Blynyddoedd heriol
Mae Dennis yn gweithio tri phrynhawn yr wythnos, am awr ar y tro, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae'n gweld rhwng tri a phedwar disgybl.
Cafodd Dennis ei hyfforddi gyda chynllun 'Burns By Your Side' a oedd yn cynnwys awr o hyfforddiant unwaith yr wythnos am 16 wythnos.
Mae'r ysgol yn dweud bod yr hyfforddiant wedi caniatáu iddo "gyrraedd y safonau uchaf o ran diogelwch ac ansawdd".

Daw llwyddiant Dennis yn dilyn blynyddoedd heriol i Ysgol Heol Goffa, gyda rhieni yno yn galw am ysgol newydd.
Mae lle i 75 o ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn yr ysgol yn Llanelli, ond mae dros 120 yno ar hyn o bryd.
Fis Mai dywedodd aelod cabinet Cyngor Sir Gâr dros addysg y bydd dau opsiwn ar gyfer ysgol newydd yn Llanelli yn cael eu hargymell i gabinet y cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies y byddai'r opsiwn cyntaf yn ysgol ar gyfer 150 o ddisgyblion, gyda'r ail ar gyfer 250 o ddisgyblion.
Byddai'r ddau opsiwn yn golygu y byddai adeilad newydd Ysgol Heol Goffa yn fwy na'r cynllun gwreiddiol ar gyfer 120 o ddisgyblion.
Cafodd adolygiad annibynnol o'r ddarpariaeth addysgol arbennig yn y dref ei gyhoeddi fis Chwefror.
Fe wnaeth yr adolygiad bwysleisio'r angen i ehangu'r ddarpariaeth ar gyfer cyflyrau'r sbectrwm awtistig (CSA) a chynnig chwe opsiwn ar gyfer dyfodol yr ysgol.