Ryan Giggs i ymddangos o flaen Llys y Goron
28/05/2021
Bydd Ryan Giggs yn ymddangos o flaen Llys y Goron Manceinion ddydd Gwener.
Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru yn wynebu cyhuddiadau o achosi niwed corfforol i ddynes yn ei 30au ac ymosod ar ddynes arall yn ei 20au mewn lleoliad yn Salford fis Tachwedd diwethaf.
Mae hefyd wedi cael ei gyhuddo o ymddygiad o orfodaeth neu reolaeth dros unigolyn.
Gwadodd Giggs y cyhuddiadau yn ei erbyn wrth iddo ymddangos o flaen Llys Ynadon Manceinion fis diwethaf, meddai Sky Sports News.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Asiantaeth luniau Huw Evans