Atgyfeiriadau am lawdriniaethau rhywedd bedair gwaith yn uwch yng Nghymru
Roedd cyfradd yr atgyfeiriadau am lawdriniaethau cadarnhau rhywedd dros bedwar gwaith yn uwch yng Nghymru nag yn Lloegr cyn penderfynu eu hoedi ychydig dros fis yn ôl.
Mae ffigurau 2025/26 yn dangos 12.6 o atgyfeiriadau fesul 100,000 o’r boblogaeth gan Wasanaeth Rhywedd Cymru, o’i gymharu â 3.1 gan glinigau yn Lloegr.
Mae’r ffigurau mewn adroddiad gan Brif Gomisiynydd Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru, ar ôl i atgyfeiriadau a llawdriniaethau gael eu hoedi ym mis Awst.
Yn ôl yr adroddiad, roedd tua 60 o gleifion i fod i gael llawdriniaeth rhwng dechrau’r oedi a diwedd mis Rhagfyr.
Roedd yr oedi wedi siomi rhai oedd ar y rhestr aros ar y pryd, gydag un yn dweud wrth Newyddion S4C ar y pryd bod y penderfyniad i oedi wedi “completely torri calon”.
Mae panel adolygu clinigol annibynnol bellach wedi’i benodi, ac mae’r cyd-bwyllgor yn ffyddiog y bydd modd adolygu achosion y 60 erbyn diwedd Rhagfyr, meddai adroddiad newydd.
Mae’r adroddiad gan y Prif Gomisiynydd, Juliet Brown, yn cael ei gyflwyno i gyfarfod y cyd-bwyllgor ddydd Mawrth, 22 Medi.
Mae’n cofnodi 403 o atgyfeiriadau am lawdriniaethau cadarnhau rhywedd gan Wasanaeth Rhywedd Cymru yn ystod blwyddyn ariannol 2025/26.
Roedd hynny’n gyfradd o 12.6 fesul 100,000 o’r boblogaeth yng Nghymru, o’i gymharu â 3.1 ar gyfer atgyfeiriadau gan glinigau hunaniaeth rhywedd yn Lloegr.
Atgyfeiriadau am lawdriniaethau yw’r ffigurau hyn, yn hytrach na nifer y bobl sy’n cael eu cyfeirio at Wasanaeth Rhywedd Cymru.
Dywed yr adroddiad fod y cyd-bwyllgor wedi codi pryderon ynghylch lefel yr atgyfeiriadau, eu priodoldeb a threfniadau llywodraethu clinigol o fewn y gwasanaeth.
Roedd data gan wasanaeth cenedlaethol sy’n cael ei gomisiynu gan GIG Lloegr yn dangos bod cyfraddau atgyfeirio am lawdriniaethau “yn sylweddol uwch” yng Nghymru.
“Mae’r cyfraddau’n amrywio rhwng tua thair a phum gwaith yn uwch fesul pen o’r boblogaeth,” meddai’r adroddiad.
Roedd cydweithwyr clinigol o GIG Lloegr hefyd wedi codi pryderon am briodoldeb atgyfeiriadau ac addasrwydd clinigol.
“Adlewyrchwyd y pryderon hyn mewn cwynion ac ohebiaeth a dderbyniwyd gan aelodau o’r cyhoedd,” meddai.
Nid yw’r adroddiad yn dod i gasgliad bod yr atgyfeiriadau’n amhriodol. Mae’n dweud bod y pryderon a’r data wedi amlygu problemau posibl oedd angen eu “cymryd o ddifrif”.
Y cefndir
Ar 24 Awst, fe wnaeth y Pwyllgor Ansawdd, Diogelwch a Chanlyniadau gymeradwyo argymhelliad i oedi atgyfeiriadau gan Wasanaeth Rhywedd Cymru am lawdriniaethau cadarnhau rhywedd.
Fe wnaeth hefyd gymeradwyo cynigion i oedi asesiadau llawfeddygol a llawdriniaethau, a chynnal adolygiad clinigol annibynnol brys o gleifion ar y rhestrau aros am lawdriniaeth.
Cafodd y gwasanaeth ei roi ar lefel uwchgyfeirio 3 ar 26 Awst.
Nid yw’r oedi’n effeithio ar gymorth seicolegol, cymorth endocrin na gwasanaethau therapi hormonau.
Nid yw chwaith yn effeithio ar ôl-ofal clinigol angenrheidiol, trin cymhlethdodau, na chleifion sydd eisoes yn mynd drwy gyfres gynlluniedig o lawdriniaethau.
Yn amodol ar gymeradwyaeth lywodraethu derfynol, mae disgwyl i’r panel adolygu annibynnol ddechrau ei waith yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 21 Medi.
Dywed yr adroddiad ei bod yn bwysig lleihau’r cyfnod o ansicrwydd i gleifion, a sicrhau bod llawdriniaethau’n ailddechrau cyn gynted â phosibl, lle bo hynny’n briodol.
Mae hefyd yn pwysleisio bod angen cefnogi pawb sy’n cael eu heffeithio drwy’r broses.
“Rydym wedi nodi bod tua 60 o gleifion i fod i gael llawdriniaeth rhwng yr amser y cafodd llawdriniaethau eu hatal ym mis Awst a diwedd mis Rhagfyr; ein blaenoriaeth yw rhoi sicrwydd i’r bobl hyn cyn gynted â phosibl,” meddai.