Awgrym y bydd Llywodraeth y DU yn oedi eu cynllun llacio cyfyngiadau Covid-19

Mae cynllun Llywodraeth y DU i lacio holl gyfyngiadau Covid-19 ym mis Mehefin yn y fantol.
Mae Prif Weinidog y DU Boris Johnson wedi dweud "efallai y bydd angen aros" cyn codi'r holl gyfyngiadau ar 21 Mehefin.
Mae nifer yr heintiadau a'r nifer o bobl sy'n derbyn triniaeth mewn ysbytai wedi codi yn ddiweddar, gyda'r amrywiolyn India bellach yn gyfrifol am hyd at 75% o achosion newydd o'r haint.
Disgrifiodd Dr Jenny Harries, pennaeth Asiantaeth Diogelwch Iechyd newydd y DU, y sefyllfa fel un “eithaf pryderus”.
Wrth ymweld ag ysbyty, dywedodd y prif weinidog nad oedd unrhyw beth “yn y data ar hyn o bryd” i awgrymu y byddai’n rhaid oedi i lacio'r rheolau ar 21 Mehefin, ond dywedodd "efallai y bydd angen aros", meddai The Independent.
Dywedodd Ysgrifennydd Iechyd y DU hefyd ei bod yn “rhy gynnar i ddweud” a fydd cam nesaf cynllun y llywodraeth i lacio'r cyfyngiadau yn digwydd yn sgil pryderon am yr amrywiolyn India.
Darllenwch y stori'n llawn yma.