Newyddion S4C

Wally'r Walrws wedi codi pac a chyrraedd Ffrainc

Wales Online 28/05/2021
Wally'r Walrus - Factfinder404, drwy WikimediaCommons

Mae walrws enwocaf Cymru wedi codi pac a chyrraedd Ffrainc.

Cafodd Wally'r Walrws ei weld gyntaf yn Sir Benfro ddechrau mis Mai, gyda thwristiaid yn heidio i Ddinbych-y-pysgod i'w weld.

Wythnos diwethaf, fe ddiflannodd Wally, gydag adroddiadau ei fod wedi cyrraedd Cernyw.

Ond, erbyn hyn, mae'r wasg Ffrengig yn adrodd fod walrws wedi cael ei weld yng ngorllewin y wlad, yn nhref arfordirol Les Sables-d'Olonne.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.