Llanfairfechan: Rhyddhau dyn dan ymchwiliad wedi i fachgen chwech oed farw mewn gwrthdrawiad

Llanfairfechan

Mae dyn 39 oed wedi ei ryddhau dan ymchwiliad wedi i fachgen chwech oed farw mewn gwrthdrawiad yn Llanfairfechan yn Sir Conwy.

Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i'r dref toc wedi 17.00 ddydd Iau yn dilyn adroddiadau am wrthdrawiad rhwng fan Ford Transit wen a phlentyn.

Cafodd gyrrwr y fan, dyn lleol 39 oed, ei arestio ac mae bellach wedi ei ryddhau dan ymchwiliad.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Tim Evans o Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol Heddlu Gogledd Cymru: “Mae ein meddyliau yn gyntaf ac yn bennaf gyda theulu ac anwyliaid y plentyn ar yr amser hynod anodd yma.

"Rydym yn cydnabod yr effaith ddwys y mae trasiedi fel hon yn ei chael ar y teulu a’r gymuned ehangach.

“Mae ymchwiliad llawn i amgylchiadau’r gwrthdrawiad yn parhau. Rydym yn adnewyddu ein hapêl i unrhyw un a oedd yn yr ardal o amgylch Ffordd Pen y Bryn a Ffordd y Felin tua 17:00 nos Iau ac sydd eto i siarad â ni, i gysylltu cyn gynted â phosib.”

Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad, neu a allai fod â lluniau dashcam o'r ardal ar y pryd, i gysylltu gyda nhw trwy ffonio 101, gan ddefnyddio'r cyfeirnod O162122.

Dywedodd Eglwys Hope yn y dref y bydd yn agor ei drysau rhwng 14:30 a 16:30 brynhawn Gwener, a hynny fel "gofod ar gyfer unrhyw un sydd eisiau bod ag eraill, naill ai i eistedd yn dawel neu i gael sgwrs."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.