Carcharu dyn o Ben-y-bont am 14 o flynyddoedd am lofruddio ei wraig

Dedfryd

Mae dyn wedi cael ei ddedfrydu i 14 o flynyddoedd o garchar am lofruddio ei wraig "gariadus" yng Nghefn Cribwr, Pen-y-bont ar Ogwr, ar ôl iddo ddechrau pryderu y byddai hi'n ei adael. 

Fe gafwyd Michael Davies, 58 oed, yn euog o ladd Tracey Davies ar ddiwedd ei achos llys ar 11 Medi.

Cafodd Mrs Davies ei darganfod yn farw ar 18 Ebrill 2025 pan aeth aelodau o'i theulu i'w chartref yn sgil pryder am ddiffyg cyswllt. 

Clywodd Llys y Goron Casnewydd ei bod hi wedi cael ei chrogi gan ei gŵr, a aeth ymlaen i drywanu ei hun, ond fe oroesodd a gwella o'i anafiadau. 

Yn ystod yr achos llys, clywodd y rheithgor fod Davies, a oedd yn gweithio yn Abu Dhabi ar y pryd, wedi cael ei anfon adref oherwydd cyflwr ei iechyd meddwl.

Roedd wedi bod yn dioddef o baranoia, gan ddychmygu y byddai ei wraig yn ei adael. 

Dedfryd

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Claire Lamerton o Heddlu De Cymru: “Mae’r ddedfryd a roddwyd heddiw yn adlewyrchu difrifoldeb gweithredoedd Michael Davies. 

"Mae marwolaeth Tracey Davies, a’r modd y cafodd ei lladd, wedi effeithio’n ddwfn nid yn unig ar y teulu agos ond hefyd ar y gymuned ehangach a oedd yn ei hadnabod.

"Yn ystod yr achos, amlygwyd bod Tracey Davies yn wraig, mam, chwaer a ffrind ymroddedig, a bod y teulu yn golygu popeth iddi."

Image
Tracey Davies

Ychwanegodd: "Byddai’n gwneud unrhyw beth dros unrhyw un, ac roedd yn wraig gariadus a chefnogol iawn i Mr Davies. Gobeithiwn y bydd y ddedfryd heddiw yn rhoi rhywfaint o gysur i deulu a ffrindiau Tracey, er ein bod yn cydnabod efallai na fyddan nhw fyth yn goresgyn eu galar.

“Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i godi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl a thrais domestig, gan sicrhau bod unigolion yn cael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt.

“Os ydych chi, neu rywun rydych chi’n ei adnabod, yn cael trafferthion, cysylltwch â gwasanaethau lleol neu linellau cymorth i gael cymorth.”

Mewn teyrnged yn dilyn y ddedfryd, dywedodd teulu Tracey Davies: “Mae colli Tracey mewn ffordd mor erchyll a threisgar yn gwaethygu’r boen rydym yn ei theimlo.

“Ni fydd unrhyw hyd o ddedfryd a roddir i Michael byth yn dod â Tracey yn ôl, ac ni fydd byth yn adlewyrchu’r ddedfryd rydym ni fel teulu yn ei chyflawni wrth orfod byw ein bywydau heb Tracey.

“Roedd hi’n fam ymroddedig, yn chwaer annwyl, yn ffrind ffyddlon, yn gefnder ac yn fodryb gariadus, ac yn bersonoliaeth wirioneddol ddisglair a allai oleuo unrhyw ystafell gyda’i chwerthin.

“Ei phlant oedd ei balchder mwyaf, ac ymladdodd drostynt gydag ymroddiad digymar. Mae Tracey yn cael ei charu a’i cholli gymaint. Byddwn yn ei chofio bob amser.”

Lluniau: Heddlu'r De

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.