Yr heddlu’n apelio am dystion wedi ymosodiad honedig yn Sioe Amaethyddol Llandeilo
Llun: Sioe Llandeilo
Mae’r heddlu’n apelio am dystion yn dilyn ymosodiad honedig yn Sioe Amaethyddol Llandeilo ym mis Awst.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod y digwyddiad wedi digwydd am tua 00.45 ar ddydd Sul 16 Awst, yn yr oriau mân wedi’r sioe ar Gaeau Cawdor yn Ffairfach.
Cafodd y dioddefwr anafiadau difrifol i’w wyneb ac roedd angen triniaeth ysbyty arno.
Mae dau ddyn 18 oed wedi cael eu harestio ar amheuaeth o ymosod gan achosi niwed corfforol ac maen nhw wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad, neu sydd ag unrhyw wybodaeth allai helpu gyda’r ymchwiliad, i gysylltu â nhw.