Yr Arlywydd Trump yn rhybuddio y gallai ofyn i wledydd Ewrop ryddhau disel wrth gefn ar unwaith
Mae'r Arlywydd Trump wedi dweud y gallai ofyn i wledydd Ewropeaidd ryddhau ychydig o'u disel wrth gefn ar unwaith.
Daw ei sylwadau wedi i Ysgrifennydd Trysorlys UDA Scott Bessent rybuddio Ewrop i ryddhau cyflenwadau o'r fath ar unwaith, gan ddadlau na ddylai "ffermwyr a busnesau Americanaidd orfod ysgwyddo'r baich" oherwydd prinder byd eang.
Mae'r Unol Daleithiau wedi bygwth cyfyngu ar allforion disel yn sgil costau cynyddol oherwydd y rhyfel yn Iran.
Ddydd Iau, fe wnaeth y DU gynnal trafodaethau gyda gwledydd yn yr Undeb Ewropeaidd am ryddhau cyflenwadau ychwanegol mewn ymateb i unrhyw waharddiad.
Mae'r Unol Daleithiau yn ddarparwr allweddol o ddisel i'r byd, gan allforio rhwng 1.2 ac 1.5 miliwn casgen y dydd, gydag arbenigwyr yn rhybuddio y gallai gwaharddiad o'r fath roi pwysau ychwanegol ar brisiau mewn gwledydd eraill.
Yn sgil y rhyfel yn Iran, fe gyrhaeddodd pris disel ei lefel uchaf erioed yn gynharach yr wythnos hon, ac mae'n dal i fod o amgylch £2 y litr.
Pris cyfartalog litr o ddisel ddydd Llun oedd 199.18c, yn ôl ffigyrau gan yr RAC.
Mae hynny 56.8c yn ddrytach nag ar ddechrau’r rhyfel rhwng yr Unol Daleithiau ac Iran ar 28 Chwefror eleni. Bryd hynny, pris cyfartalog litr oedd 142.38c.
Y record flaenorol oedd 199.09c, ym mis Mehefin 2022.
199.2c oedd y pris cyfartalog yng Nghymru ddydd Llun, yn ôl data gwefan Fuel Map UK, gyda phris mor uchel â 219c mewn un lleoliad ar yr M4.
Fe ddywedodd yr Arlywydd Trump wrth ohebwyr ddydd Iau y gallai alw ar wledydd Ewropeaidd i leihau eu cronfeydd wrth gefn.
Roedd wedi dweud yn flaenorol ei fod yn "ystyried" cyflwyno gwaharddiad ar allforiadau disel Americanaidd, ond fe wnaeth gydnabod hefyd y gallai hynny gynyddu costau cynnyrch eraill.
Byddai gwaharddiad yn golygu fod yn rhaid i'r DU gystadlu gyda gwledydd eraill i ddod o hyd i gyflenwad amgen a fyddai'n costio mwy.
Mae'r DU yn mewnforio bron i 55% o'r disel y mae'n ei ddefnyddio, gyda thua 31% o hynny yn dod o'r Unol Daleithiau.