Newyddion S4C

Rhybuddio pobl i 'barchu' wrth deithio dros benwythnos Gŵyl y Banc

North Wales Live 28/05/2021
Llun Heddlu Gogledd Cymru

Gyda disgwyl i nifer fawr o bobl deithio i Gymru dros benwythnos Gŵyl y Banc, mae Heddlu Gogledd Cymru, cynghorau lleol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi annog pobl i barchu eraill a'u hamgylchedd.

Daw’r alwad ar ôl i nifer o ardaloedd yng Nghymru, gan gynnwys y parc, wynebu problemau mawr gyda pharcio, sbwriel a gwersylla anghyfreithlon y llynedd ar ôl llacio cyfyngiadau Covid-19.

Er mwyn ceisio mynd i'r afael â'r heriau a wynebwyd yn 2020, mae gwasanaethau bysiau gwennol yn cael eu cynnig yn ardaloedd yr Wyddfa a Dyffryn Ogwen, gyda gofyn i ymwelwyr archebu llefydd parcio ymlaen llaw, neu i ymweld â'r mannau hyn ar adegau tawelach.

Mae pobl sy'n parcio'n anghyfreithlon wedi cael rhybudd y bydd eu cerbydau'n cael eu symud, meddai North Wales Live.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Llun: Heddlu Gogledd Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.