Newyddion S4C

Annog ‘Y Wal Goch’ i beidio teithio er mwyn cefnogi Cymru

28/05/2021
Y Wal Goh

Y lle gorau i gefnogi a gwylio Cymru yn chwarae pêl-droed yr haf hwn fydd o’ch soffa, eich tafarn leol neu o’ch gardd – yn ôl neges ddiweddaraf Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru.

Mae’r galwadau yn dod wrth i dîm dynion Cymru baratoi i chwarae ei gêm gyfeillgar gyntaf cyn gemau’r grwpiau yng nghystadleuaeth Euro 2020 a gafodd ei gohirio'r llynedd.

Mae’r llywodraeth a’r gymdeithas yn annog cefnogwyr i aros gartref yn hytrach na theithio dramor i gefnogi’r tîm cenedlaethol.

Bydd Cymru yn chwarae Ffrainc mewn gêm gyfeillgar nos Fercher (2 Mehefin), cyn herio Swistir (12 Mehefin) a Thwrci (16 Mehefin) yn Baku, a’r Eidal (20 Mehefin) yn Rhufain yng ngrwpiau’r twrnament a oedd i fod i gael ei gynnal y llynedd.

‘Wynebu heriau’

Dywedodd Llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Kieran O'Connor: “Rydyn ni i gyd wrth ein boddau bod y twrnament hwn yn gallu digwydd o’r diwedd, ond yn amlwg, mae chwarae mewn gwahanol leoliadau yn ystod pandemig byd-eang yn dod â heriau a chyfrifoldebau penodol.

“Felly, rydym yn gofyn eto am gydweithrediad y Wal Goch, a pheidio â theithio i Baku, Paris na Nice ym mis Mehefin, er mwyn sicrhau bod ein cefnogwyr a’n cymunedau yn aros mor ddiogel â phosibl wrth i bob un ohonom chwarae ein rhan i lywio ein ffordd allan o’r pandemig hwn.”

Mae Azerbaijan a’r Eidar ar restr deithio ‘oren’ y DU.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford: “I gefnogwyr pêl-droed, y ffordd orau o ddangos cefnogaeth i Gymru yw aros yng Nghymru a chefnogi’r tîm o gartref.

“Ein cyngor pendant yw na ddylech deithio – mae Ffrainc, Azerbaijan a’r Eidal ar y rhestr oren oherwydd bod y feirws yn cylchredeg yno”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.