Cipolwg ar brif benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma eich diweddariad o brif benawdau'r bore ar fore Gwener, 14 Mai, o Gymru a thu hwnt.
Cymru i symud i lefel rhybudd dau
Fe fydd Cymru yn symud o lefel rhybudd tri i lefel dau ddydd Llun wrth i gyfyngiadau Covid-19 lacio ymhellach. Dyna pryd fydd hawl gan y sector lletygarwch i ail-agor i gwsmeriaid y tu mewn. Bydd Mark Drakeford yn diweddaru Cymru ar y cyfyngiadau diweddaraf am y tro cyntaf ers yr etholiad yn ddiweddarach ddydd Gwener.
Lluoedd Israel yn cynnal ymosodiadau ar Gaza - The Independent
Mae lluoedd Israel wedi dechrau cynnal ymosodiadau o'r ddaear ar Gaza yn ogystal â rhai o'r awyr wrth i rocedi milwrol gael eu hanfon yn y cyfeiriad arall. Mae tensiynau wedi codi yn y diriogaeth ddechrau'r wythnos ac erbyn hyn mae 103 o bobl yn Gaza a saith o bobl o Israel wedi eu lladd.
Ystyried mesurau i fynd i'r afael ag amrywiolyn India - Sky News
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystyried cyfres o fesurau ychwanegol yn Lloegr i fynd i'r afael ag amrywiolyn India o Covid-19. Mae achosion o'r amrywiolyn wedi mwy na dyblu yn ystod yr wythnos ddiwethaf mewn rhai ardaloedd o'r wlad. Ymhlith y mesurau sydd dan ystyriaeth, mae'r posibilrwydd o leihau'r bwlch rhwng brechiadau rhag y feirws.
Atal lladrad nifer o gerbydau a charafanau yng Nghaernarfon
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhoeddi eu bod wedi atal nifer o gerbydau a charafanau rhag cael eu dwyn ar Ffordd y Gogledd ger Morrisons yng Nghaernarfon fore Gwener. Mae un dyn wedi ei arestio ac fe rybuddiodd y llu y byddai'r ffordd yn debygol o fod wedi ei rhwystro am gyfnod eto.
Cofiwch ddilyn y datblygiadau diweddaraf yn ystod y dydd ar ap a gwefan Newyddion S4C.