Newyddion S4C

Lluoedd Israel yn cynnal ymosodiadau ar Gaza

The Independent 14/05/2021
Newyddion S4C

Dechreuodd lluoedd Israel gynnal ymosodiadau o'r ddaear ar Gaza, gyda rocedi milwrol yn cael eu hanfon yn y cyfeiriad arall, wrth i densiynau gynyddu yn y diriogaeth.

Bydd Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig yn trafod y sefyllfa dreisgar rhwng milwriaethwyr Israel a Phalestina yn gyhoeddus ddydd Sul.

Mae 103 o bobl wedi eu lladd yn Gaza ers i densiynau godi ddechrau'r wythnos, yn ôl gweinidog iechyd y rhanbarth, gan gynnwys 27 o blant a 11 menyw.

Mae saith o bobl o Israel hefyd wedi eu lladd, gan gynnwys dau blentyn a milwr, adrodda The Independent.

Darllenwch y diweddaraf am y sefyllfa yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.